Caryl Parry Jones i gyflwyno rhaglenni hwyr Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Caryl Parry Jones yn 'llawn cyffro' i gyflwyno rhaglen hwyr Radio Cymru

Caryl Parry Jones yw cyflwynydd newydd slot rhaglen Geraint Lloyd ar BBC Radio Cymru.

Fe ddaeth i'r amlwg yn gynharach ym mis Awst y byddai rhaglenni hwyr Geraint Lloyd, Geth a Ger a Nia Roberts yn diflannu o amserlen yr orsaf ym mis Hydref.

Mewn ymateb, cafodd deiseb ei lansio i achub rhaglen Geraint Lloyd ac fe wnaeth dros 1,800 ei llofnodi.

Bydd Caryl Parry Jones yn cyflwyno ar yr orsaf bob nos Lun i nos Iau rhwng 21:00 a 00:00.

Mae Caryl wedi diddanu a chyflwyno ar radio a theledu ers blynyddoedd ac yn fwy diweddar ar Sioe Frecwast Radio Cymru 2.

Dywedodd ei bod "wir yn edrych 'mlaen at gyfnod newydd".

"Diolch o galon i bawb yn Radio Cymru 2 am gael bod yn rhan o wasanaeth mor hapus ac arloesol," ychwanegodd.

"Ond ymlaen â ni - ffling i'r cloc larwm a helo slipars a jim-jams a miwsig gora'r nos!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Lloyd wedi cyflwyno'r rhaglen hwyr ers 2012, a chyn hynny bu'n cyflwyno yn y prynhawn a gyda'r nos

Bydd Caryl yn cyflwyno'r slot y mae Geraint Lloyd wedi bod yn gyfrifol amdani ers 2012.

Mewn ymateb i'r newyddion y byddai ei raglen yn diflannu o'r amserlen ym mis Hydref, cafodd deiseb ei lansio a threfnwyd digwyddiadau i geisio achub y rhaglen.

'Enw cyfarwydd'

Fe wnaeth Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru, ddiolch i Geraint Lloyd, Geth a Ger a Nia Roberts "am eu holl waith a'u gwasanaeth i'r orsaf" wrth gyhoeddi'r cyflwynydd newydd.

"Edrychwn ymlaen i chwilio am gyfleoedd i gydweithio â nhw eto yn y dyfodol," ychwanegodd.

Dywedodd bod Caryl yn "enw cyfarwydd i gynulleidfaoedd ar draws Cymru gyfan".

"Wrth ddiddanu cynulleidfaoedd ar hyd y blynyddoedd - boed ar y radio, teledu neu mewn cyngherddau - mae hi wedi dod â'i brand unigryw o hwyl a hiwmor i genedlaethau o Gymry.

"Dwi'n falch iawn felly, y bydd Caryl yn adlonni cynulleidfaoedd Radio Cymru gyda'r nos o fis Hydref ymlaen."

Bydd Caryl yn cyflwyno ei Sioe Frecwast olaf ar BBC Radio Cymru 2 fore Iau 29 Medi.

Mae disgwyl rhagor o wybodaeth am arlwy newydd yr orsaf ddigidol maes o law ar ôl y cyhoeddiad y bydd Radio Cymru 2 yn ehangu ei oriau darlledu i 60 awr yr wythnos

Pynciau cysylltiedig