Teyrnged teulu i feiciwr modur 'uchel ei barch'

  • Cyhoeddwyd
Dean KayesFfynhonnell y llun, LLUN TEULU

Mae teulu gyrrwr beic modur 53 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Aberhonddu ddydd Sadwrn wedi rhyddhau teyrnged iddo.

Roedd Dean Kayes yn wreiddiol o Ferthyr Tudful ond yn byw yn ardal Castell-nedd.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i apelio am dystion yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar hyd yr A470 ger Llandyfalle, tua 17:00.

Yn y deyrnged dywed y teulu: "Roedd Dean yn aelod hoff iawn o'n teulu, a bydd pawb ohonom yn ei golli'n fawr.

'Uchel ei barch'

"Dechreuodd Dean feicio pan gafodd ei feic sgrialu cyntaf yn 8 oed. Taniodd hynny'r angerdd dros feicio modur a barhaodd drwy gydol ei oes.

"Roedd yn feiciwr modur profiadol iawn â dros 40 mlynedd o brofiad.

"Roedd yn aelod uchel iawn ei barch o'r gymuned beicio modur leol yn ne Cymru, a byddai'n aml yn mynd ar deithiau i Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal gyda phobl o bob cwr o'r DU.

"Bydd Dean yn ein calonnau a'n meddyliau am byth, ac ni fydd ein bywydau'r un fath hebddo."

Pynciau cysylltiedig