Ystyried cael gwared ar logos i leihau pris gwisg ysgol

  • Cyhoeddwyd
Gwisgoedd ysgol

Fe all logos ar wisgoedd ysgol gael eu diddymu o dan gynlluniau Llywodraeth Cymru i leddfu'r pwysau ariannol ar deuluoedd.

Bydd swyddogion yn ystyried os ddylai gwisgoedd gael logo o gwbl, neu ddefnyddio rhai y gellir eu smwddio ar y dillad am ddim.

Mewn llythyr at gyrff llywodraethol ysgolion ddaeth i law BBC Cymru, mae'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn dweud y byddai hynny yn rhoi'r dewis i deuluoedd i brynu gwisgoedd yn rhatach.

Mae Plaid Cymru wedi croesawu'r syniad, ond yn dweud bod hyn yn digwydd yn "rhy hwyr" i gael effaith ar y flwyddyn hon.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y newidiadau posib yn digwydd yn "fuan".

£337 fesul disgybl

Cyrff llywodraethol ysgolion sy'n gosod polisi gwisg a delwedd ar hyn o bryd.

Mae canllawiau'r llywodraeth yn datgan y dylen nhw geisio cyfyngu logos i un eitem o ddillad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae plant o deuluoedd ar incwm isel ac sy'n gymwys ar gyfer budd-daliadau penodol yn gallu gwneud cais am grant i helpu gyda gwisgoedd ysgol ac eitemau eraill.

Eleni, mae'r grantiau £100 yn uwch oherwydd y cynnydd mewn costau byw.

Yn ôl arolwg, mae cost flynyddol gwisg ysgol yn y DU yn £337 i ddisgybl uwchradd, ar gyfartaledd.

£315 yw'r ffigwr ar gyfer disgybl cynradd.

Mae nifer o rieni wedi prynu gwisgoedd ysgol yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Ffynhonnell y llun, Elin Mair Wynne
Disgrifiad o’r llun,

Elin Mair Wynne: 'Logo yn rhoi naws o berthyn i gymuned ysgol'

Mae Elin Mair Wynne yn riant i ddau o blant ac yn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Llanfechell ar Ynys Môn.

Dywedodd: "Dwi'n teimlo bod cael cael logo yn bwysig i ysgol gan ei fod yn rhoi naws o berthyn i gymuned ysgol.

"Mae gwisg ysgol yn gallu bod o fantais a does dim llawer o feddwl am beth i wisgo i'r ysgol bob dydd, a dim cystadleuaeth am bwy sydd gan y dillad mwyaf diweddar neu ryw designer ar y brig."

Mae hi'n croesawu'r syniadau ond yn dweud y gall rhieni wneud newidiadau yn barod.

"Mae modd bod yn hyblyg, cael un dilledyn gyda logo ysgol a chael dilledyn o archfarchnad ac yna thalu cost llawer llai am gael gwnio logo arno."

'Baich i deuluoedd'

Yn ei lythyr, mae Mr Miles yn gofyn i ysgolion fod yn "drugarog" o ran yr angen am wisgoedd sydd wedi eu brandio yn y tymor newydd.

Mewn rhai achosion, meddai, mae teuluoedd yn gwario "symiau torcalonnus" o arian er mwyn anfon eu plant i'r ysgol.

Ychwanegodd: "Gobeithio eich bod yn cytuno nad yw hynny'n dderbyniol.

"Rydym yn gwybod bod logos ysgolion, er enghraifft, yn parhau i fod yn faich i lawer o deuluoedd.

"Rwyf felly wedi gofyn i fy swyddogion ystyried opsiynau mewn perthynas â logos ar wisg ysgol.

"Bydd yr opsiynau'n ystyried a ddylai ysgolion gael logo o gwbl, neu gynnig logos yn rhad ac am ddim y gellir eu smwddio'n sownd i'r dillad.

"Byddai hyn yn rhoi'r opsiwn i deuluoedd brynu gwisg yn rhatach gan fanwerthwr o'u dewis."

Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud: "Byddaf hefyd yn ystyried a ddylai ysgolion allu dangos bod unrhyw elw o gytundeb ariannol sydd ganddynt â darparwyr gwisg ysgol yn cael ei drosglwyddo i'r cwsmer a'i fod yn codi pris rhesymol tebyg i fanwerthwyr y stryd fawr."

'Rhy hwyr'

Dywedodd Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru ar Addysg ôl-16, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb: "Ers tro mae Plaid Cymru wedi galw am fwy o weithredu i gael gwared â chostau'r diwrnod ysgol sy'n gall golygu stigma a chodi cywilydd ar blant.

"Er fy mod yn croesawu'r ymgynghoriad yma i gael gwared ar fathodyn ysgol i leihau costau i deuluoedd a sicrhau bod unrhyw gefnogaeth ariannol yn mynd ymhellach, mae yna fwy y gall y llywodraeth wneud, er enghraifft, gwneud canllaw o ran y costau sy'n ymwneud ag addysg yn statudol.

"Hefyd, rwy'n ofni bod yr ymyrraeth yma yn rhy hwyr i gael effaith ar gyfer y flwyddyn ysgol hon."

Pynciau cysylltiedig