Teyrnged i dad i ddau fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Andrew ClarkFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiwyd Andrew Clark fel "tad cariadus a oedd yn meddwl y byd o'i ddwy ferch."

Mae beiciwr modur fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Benfro wedi ei ddisgrifio fel "tad cariadus".

Bu farw Andrew Clark, 34, oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel 'Clarky', yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar Ffordd Freeman, Hwlffordd ar 26 Awst.

Mewn datganiad dywedodd ei deulu ei fod yn "rhy ifanc o lawer i gael ei gymryd", gan ei ddisgrifio fel "tad cariadus a oedd yn meddwl y byd o'i ddwy ferch".

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad.

'Llawer rhy ifanc'

"Roedd yn rhy ifanc o lawer i gael ei gymryd, ac roedd llawer mwy o fywyd ar ôl gydag ef i fyw", dywedodd ei deulu mewn datganiad.

"Mae'n gadael ei ddwy ferch ifanc, ei frodyr a'i chwiorydd, ei bartner, a'i gi bach, Loki."

Dywedon nhw fod Mr Clark yn "weithiwr caled" ond hefyd yn "dynnwr coes ac wrth ei fodd yn cael sbort a chellwair".

Wedi gweithio fel pysgotwr, ychwanegon nhw ei fod "bob amser yn barod i gynnig yr hyn yr oedd wedi'i ddal i'w anwyliaid".

"Rydym wedi'n llorio gan y negeseuon o gariad, cydymdeimlad a chefnogaeth a dderbyniwyd, sydd wedi cynnig cysur wrth i bawb ohonom ddod i delerau â'r newyddion trist."

Ychwanegon nhw eu diolch i'r gwasanaethau brys ac aelodau o'r cyhoedd a gynorthwyodd ar y dydd.

Pynciau cysylltiedig