Croesawu myfyrwyr cyntaf cwrs nyrsio Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Bydd cwrs gradd nyrsio newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn croesawu'r myfyrwyr cyntaf ddydd Llun.
Dyma'r tro cyntaf i'r brifysgol - sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed - gynnig gradd mewn nyrsio.
Dyfarnodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC) gontract i Brifysgol Aberystwyth i gynnig cwrs gradd nyrsio oedolion a gradd nyrsio iechyd meddwl.
Mae AGIC yn awdurdod iechyd arbennig sy'n eistedd ochr yn ochr â'r byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau, ac yn canolbwyntio ar lunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru.
Hwb i iechyd yn y canolbarth
Mae lansio'r cwrs gradd newydd yn cael ei ystyried yn hwb mawr i'r gwasanaeth iechyd, yn enwedig yn y canolbarth.
Mae 53 o fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf, gyda 64% yn byw yn y canolbarth neu yng ngorllewin Cymru.
I lawer sydd ag ymrwymiadau teuluol, mae'r ffaith bod cwrs yn agos at eu cartrefi yn golygu y gallan nhw wireddu breuddwyd o ddod yn nyrs.
"Fe wnes i grïo pan glywais fod gen i le," meddai Caryl James o Bow Street ger Aberystwyth - un o'r garfan gyntaf.
Fel gweithiwr cymorth iechyd a fflebotomydd, mae hi wedi gweithio ochr yn ochr â nyrsys yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ers 2009.
Dywed Caryl fod cymhwyso fel nyrs ei hun wedi bod yn uchelgais erioed ond fel mam sengl i ferch saith oed doedd mynd i ddilyn cwrs gradd i ffwrdd o gartref byth yn opsiwn.
'Crïo pan glywais fod gen i le'
"Dwi wedi bod yn aros ers tua phum mlynedd i gwrs fel hwn ddod i Aberystwyth, felly mae cael lle ar y cwrs yn anhygoel - ro'n i wrth fy modd. Fe wnes i grïo pan glywais fod gen i le," meddai.
"Dwi wastad wedi bod eisiau bod yn nyrs - mae'n swydd dda iawn ac rwy'n mwynhau bod gyda phobl felly mae'n arbennig iawn.
"Ond gan fy mod i'n fam sengl, byddai wedi bod yn amhosib i mi deithio i gwrs yn Abertawe neu i unrhyw le arall, felly mae cael y cyfle i wneud y cwrs yn Aberystwyth yn gwneud popeth yn haws.
"Ac mae mam a dad yn agos ac ar gael i helpu gyda gofal plant, felly am y tair blynedd nesaf dwi'n mynd i fod yn fyfyriwr! Mae'n teimlo fel taswn i'n camu mewn i fywyd rhywun arall."
Un arall o'r garfan gyntaf yw Anna Stevens o Benrhyn-coch, bedair milltir o Aberystwyth.
Hon fydd ail radd Anna, ond rhywbeth sydd wedi bod yn amhosibl am yr 20 mlynedd ddiwethaf tra bu'n gofalu'n ddi-dâl am ei mab anabl.
Dywed Anna fod gan Philip anghenion cymhleth a bod angen gofal arno 24 awr y dydd, ond ers iddo ddod yn oedolyn mae Anna wedi cael cyllid i dalu am ofalwyr llawn amser i ddod i'r tŷ i ofalu amdano.
'Mwy na dim ond pennod newydd'
"Roedd popeth allan o gyrraedd am 20 mlynedd," meddai Anna.
"Yna cawson ni gyllid i dalu am ofalwyr llawn amser ar ei gyfer, ac felly dwi'n cael y cyfle hwn yn sydyn i ystyried beth dwi eisiau ei wneud gyda fy mywyd.
"Dechreuodd y gofalwr cyntaf gyda ni ar y dydd Llun a soniodd wrtha i fod nyrsio yn dod i Aberystwyth.
"Erbyn y dydd Sadwrn, ro'n i yn y diwrnod agored, yna fe wnes i fy nghais UCAS yn yr wythnos ganlynol. Felly penderfynais yn eithaf cyflym beth ro'n i eisiau ei wneud.
"Mae hyn yn fwy na dim ond pennod newydd i mi. Mae'n teimlo fel taswn i'n camu mewn i fywyd rhywun arall, oherwydd mae'n swreal i gael y cyfle i wneud hyn, ac mae ar stepen fy nrws, sy'n anhygoel."
Mae gan Anna ferch yn yr ysgol uwchradd hefyd, felly doedd symud i wneud cwrs yn rhywle arall ddim yn opsiwn.
Dywed ei bod yn teimlo y bydd dod yn nyrs yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol sydd wedi ei helpu i ofalu am ei mab.
"Dwi wedi treulio 20 mlynedd yn gofalu, ond hefyd dwi wedi cael pobl arbennig iawn yn dod trwy'r drws sydd wedi helpu i ofalu amdano," meddai.
"Maen nhw wedi chwarae gyda fe, wedi paratoi llysiau, wedi helpu i lanhau'r tŷ.
"Felly ro'n nhw'n rhoi i mi, a nawr mae hyn yn teimlo fel fy nghyfle i roi yn ôl, i roi i fy nghymuned ac i wneud gwahaniaeth i bobl."
Hyfforddiant yn Gymraeg
Mae yna ymgyrch ar droed i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sectorau iechyd a gofal.
Mae tua hanner y garfan ar gyrsiau newydd Prifysgol Aberystwyth yn siaradwyr Cymraeg, a byddan nhw'n cael y cyfle i astudio hyd at hanner eu graddau yn y Gymraeg.
Mae'r cyrsiau wedi'u datblygu gyda chymorth nifer o bartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys, Cyngor Ceredigion yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro Elizabeth Treasure ei bod yn "hyfryd croesawu ein myfyrwyr nyrsio cyntaf yma".
"Mae cefnogi anghenion cymunedol, mewn cydweithrediad agos â'n rhanddeiliaid allweddol, yn ganolog i'n cenhadaeth sifig; ac mae dechrau addysg nyrsio yma yn rhan bwysig o hynny.
"Mae'n hwb i'n Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac o fudd o ran recriwtio a chadw nyrsys yn lleol ac yn rhanbarthol. Yn ogystal, mae potensial i ysbrydoli modelau newydd o ddarparu gofal iechyd a fydd o fudd i bawb.
"Bydd ein cynlluniau hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig at wella darpariaeth iechyd meddwl a chyfrwng Cymraeg yn lleol a thu hwnt."
'Dipyn o gamp'
Ychwanegodd Chris Jones, cadeirydd AGIC: "Mae datblygu a chyflwyno'r rhaglen hon gyda'r brifysgol a'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn dipyn o gamp, un sy'n adlewyrchu pwysigrwydd ehangu mynediad a darparu addysg gofal iechyd o ansawdd uchel mewn cymunedau ledled Cymru.
"Bydd y myfyrwyr nyrsio hyn yn meddu ar sgiliau a phrofiad i ddiwallu anghenion poblogaethau gwledig; darparu gofal diogel, effeithiol ac o safon; a'u galluogi i gychwyn ar gyfleoedd gyrfa llwyddiannus a boddhaus yma yng Nghymru.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n holl brifysgolion yng Nghymru, y gwasanaeth iechyd gwladol, gofal sylfaenol a chymunedol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu a gwella'r ffyrdd newydd a modern hyn o ddarparu addysg i sicrhau'r gweithlu sy'n diwallu anghenion gofal iechyd pobl Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2021