Costau byw: Angen i'r prif weinidog newydd 'fynd ati'n syth'

  • Cyhoeddwyd
Rishi Sunak a Liz Truss
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rishi Sunak a Liz Truss yn darganfod ddydd Llun pa un ohonyn nhw fydd arweinydd newydd y Ceidwadwyr

Mae angen i'r prif weinidog newydd "fynd ati'n syth" a blaenoriaethu mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, yn ôl AS Ceidwadol o Gymru.

Daeth sylwadau Stephen Crabb ddiwrnod cyn i Liz Truss a Rishi Sunak ddarganfod pa un ohonyn nhw fydd yn cael eu hethol yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr.

Dywedodd Mr Crabb, cyn-Ysgrifennydd Cymru ac AS Preseli Penfro, mai "ffenestr gul iawn iawn" fydd gan y prif weinidog newydd i sefydlu fod ganddynt hygrededd ar y pwnc.

Mewn cyfweliadau â'r BBC fore Sul fe wnaeth y ddau ymgeisydd addo helpu'r rheiny sy'n dioddef yn sgil yr argyfwng.

'Cryf, credadwy a phenodol'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Liz Truss - y ceffyl blaen yn y ras - y byddai'n gweithredu "o fewn wythnos" o ddod yn brif weinidog.

Dywedodd y cyn-ganghellor Rishi Sunak fod ganddo gynllun ar gyfer taliadau uniongyrchol i bobl sy'n ei chael hi'n anodd.

Bydd un o'r ddau yn cael eu cyhoeddi fel arweinydd newydd y blaid Geidwadol ddydd Llun, cyn cael eu gwneud yn brif weinidog yn swyddogol ddydd Mawrth.

"Bydd yn rhaid i'r prif weinidog newydd fynd ati'n syth ac, yn bendant o fewn dyddiau, cael rhywbeth cryf, credadwy a phenodol i'w ddweud ar y mater yma," meddai Mr Crabb wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.

"Rwy'n credu bod angen i'r cynllun roi cefnogaeth uniongyrchol i deuluoedd - yn enwedig rheiny ar yr y cyflogau isaf - a busnesau bach."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Stephen Crabb mai "ffenestr gul iawn iawn" fydd gan y prif weinidog newydd i sefydlu hygrededd ar y pwnc

Ar yr un rhaglen dywedodd Jo Stevens, llefarydd y blaid Lafur ar Gymru, na fyddai ethol Ms Truss neu Mr Sunak yn gwneud unrhyw wahaniaeth sylweddol, ac "ni all etholiad cyffredinol ddod yn ddigon cynnar".

Mae AS Canol Caerdydd wedi galw am rewi'r cap ar brisiau ynni fis nesaf "fel nad ydy teuluoedd yn talu ceiniog yn fwy am eu bil y gaeaf hwn".

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y trysorlys, Ben Lake, wedi galw ar y prif weinidog newydd i gynnig "lefel o gefnogaeth debyg i'r ffyrlo" er mwyn cefnogi busnesau bach trwy'r argyfwng ynni am nad oes cap ar eu costau nhw.

"Heb yr un lefel o gefnogaeth i fusnesau â'r hyn a roddwyd yn ystod y pandemig, bydd ein heconomi yn chwalu," meddai AS Ceredigion.