Blowsys yn £2.55 a blasers yn £8.50 - cost dillad ysgol y 70au

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Siopa am wisg ysgol yn y 1970au

Gyda disgyblion ar hyd a lled Cymru yn dychwelyd yn ôl i'r ysgol yr wythnos hon, mae'r arferiad o fynd allan i brynu gwisg ysgol newydd yn parhau i rai.

Ond, eleni, gyda chostau byw yn cynyddu, mae sawl rhiant wedi ei gweld hi'n anodd prynu dillad ysgol gyda logo arnyn nhw i'w plant.

Mae cynllun yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru i geisio lleddfu'r pwysau ariannol ar deuluoedd, gyda syniad y gallai logos ar ddillad ysgol gael eu diddymu.

Yn ôl arolwg, mae cost flynyddol gwisg ysgol yn y DU ar gyfartaledd yn £337 i ddisgybl uwchradd ac yn £315 i ddisgybl mewn ysgol gynradd.

Bydd swyddogion yn ystyried a ddylai gwisgoedd gael logo o gwbl, neu ddefnyddio rhai y gellir eu smwddio ar y dillad am ddim.

Fel sy'n amlwg o'r fideo archif yma o deuluoedd yn ardal Abertawe, pryderon tebyg oedd yn y 1970au - pan nad oedd modd prynu pâr o esgidiau am lai na £5.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig