Pum munud gyda Rufus Mufasa
- Cyhoeddwyd
Mae Rufus Mufasa yn rapiwr, yn fardd ac yn berfformiwr byw. Mae wedi gweithio ar brosiectau mewn amryw o wledydd ar draws y byd mewn mwy nag un iaith.
Bu Cymru Fyw'n sgwrsio gyda Rufus i weld beth sy'n ei sbarduno a'i hysbrydoli hi'n greadigol.
Rwyt ti'n cael dy adnabod fel artist anghonfensiynol. Beth wyt ti'n credu yw'r rhesymau am hyn?
Dwi'n dod o Rydaman yn wreiddiol a phan o'n i'n blentyn ro'n i'n ysu i gymryd rhan mewn eisteddfodau ac yn yr ysgol Sul. Bydden i'n troi popeth mewn i rap! Do'n i fyth yn ffitio i mewn.
Dyw Mam ddim yn siarad Cymraeg ac fe wnaeth hi'n 'nanfon i i eglwys apostolig ym Mhenygroes. Fe gwrddais i a phobl o Ghana oedd yn dysgu fi i lefaru â thafodau (speaking in tongues) pan o'n i'n saith mlwydd oed. Gwnaeth yr eglwys fy nghyflwyno i ieithoedd, diwylliannau a barddoniaeth o bob rhan o'r byd.
Pa fath o gerddoriaeth ro't ti'n gwrando arni wrth i ti dyfu i fyny?
Gwnaeth fy llys-tad gyflwyno fi i bob math o gerddoriaeth, reggae, calypso, soul a ska. Dwi wastad wedi lico rap a hip hop hefyd. Ges i fy nghyflwyno i band o'r enw Cypress Hill gan fy mrawd hena' ac fe 'nes i ddal diwedd y sin dawns a'r raves oedd yn digwydd ar draws Prydain.
Pan es i i Goleg Abertawe ro'n i'n gweithio i gwmni oedd yn gwerthu ffonau symudol ac roedd y bechgyn oedd yn gweithio yno'n hoffi DJ'o, felly ro'n ni'n mynd gyda nhw i glwb Escape yn Abertawe.
O ble ddaeth y diddordeb mewn ysgrifennu a pherfformio?
Ges i fy nerbyn i fynd i Brifysgol St Mary's yn Surrey, roedd Mam yn hapus iawn, ond fe benderfynais i fynychu Prifysgol De Cymru yn lle 'ny ac astudio gradd mewn theatr a'r cyfryngau. Yn ystod fy nghyfnod yno fe wnaeth Lisa Lewis, un o'r darlithwyr, sylweddoli mod i'n gallu siarad Cymraeg gan fy annog i wneud drama o'r enw Colli Iaith oedd yn edrych ar ddirywiad ardaloedd diwydiannol y de gyda dylanwad diwylliannau eraill arnyn nhw.
Gwnaeth hyn fy ngwthio i tuag at rapio yn y Gymraeg. Pan o'n i'n byw yn Nhrefforest ro'n i'n byw ymhlith cymuned o Nigeria. Fe wthion nhw fi'n gerddorol a dyna pam roedd fy ngwaith cynnar i'n swnio'n Arabaidd.
Ro'n i eisiau anrhydeddu'r hen bethau Cymreig mewn rap. Yna dechreuais i berfformio'n unigol. Dangosodd pobl fel Steffan Crafos ac aelodau Llywbr Llaethog ddiddordeb, ro'n nhw'n gweld yr elfen maverick yndda i. Es i ati i recordio dau albwm sef Barbed Wire Birds a Fur Coats From the Lion's Den.
Sut 'nes ti ddatblygu i fod yn fardd ac ymhle rwyt ti wedi bod yn gweithio ac yn perfformio dy waith?
Ar ôl i mi adael coleg ro'n i'n gweithio fel swyddog datblygu teuluol ac yn gwneud gwaith llawrydd fel artist cymunedol yn dysgu rap a pherfformio i famau ifanc. Yna gwnaeth Louise Richards o Lenyddiaeth Cymru ysgogi fi i drial am fellowship gyda'r Barbican yn Llundain yn 2015.
Ges i fe a threulio dwy flynedd yno'n cael fy mentora a datblygu fy nghrefft. Yn 2016 es i i'r Almaen a Gwlad Pwyl a chael y cyfle i weithio gyda sgwenwyr ar draws Ewrop. Dyna ble gwrddais i a Harry Heltel o'r Ffindir. Ges i 'ngwahodd i berfformio yng Ngŵyl Barddoniaeth Helsinki yn perfformio darn 'nes i sgwennu o'r enw King of Tango, darn naw munud sy'n cynnwys Cymraeg, Saesneg a iaith y Ffindir.
Dwi hefyd wedi bod allan yn Zimbabwe yn gweithio gydag artistiaid y wlad honno fel rhan o'r British Arts Council, ac hefyd yn Indonesia a Sweden.
Sut brofiad oedd cymryd rhan yng nghynllun Writers at Work yng Ngŵyl y Gelli?
Grêt! Ges i 12 diwrnod o drafod a datblygu gwaith a syniadau. Ges i hefyd berfformio King of Tango yno hefyd fel dathliad perfformwyr llafar.
Beth 'nes i sylweddoli yw ein bod ni i gyd yn un teulu mawr ac fe wnes i ddechrau'r daith trwy'r Gymraeg.
Wyt ti am ryddhau rhagor o gerddoriaeth a chyhoeddi mwy o dy waith barddonol?
Fel mae'n digwydd dwi wedi dysgu sut i gynhyrchu cerddoriaeth ac fe wnaeth y ddrama, Enid a Lucy - S4C, ddefnyddio rhai o'r gerddoriaeth yn y ddrama eleni. Dwi'n rhyddhau albwm newydd o'r enw Trigger Warnings ar label Winger Records o Gaerfyrddin. Dwi'n bwriadu sgwennu nofel ar gyfer pobl yn eu harddegau hwyr ac mae fy nghyfrol o farddoniaeth, Flashbacks and Flowers, wedi cael ei chyhoeddi eleni gan wasg Indigo Dreams.
Beth sy'n bwysig i ti pan rwyt ti'n mynd ati i sgwennu a chyfansoddi?
Dwi'n gweld fy hun fel rhywun sydd ar y tu allan yn edrych ar ei diwylliant. Dwi hefyd eisiau cael fy adnabod fel rhywun sy'n gwneud ei stwff ei hun.