Symud pobl o'u tai wedi ffrwydradau yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
loveden RoadFfynhonnell y llun, Aled Morris
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i gartref ar Ffordd Loveden am tua 19:20 nos Fercher

Mae dyn 36 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod â sylwedd ffrwydrol yn ei feddiant wedi digwyddiad yn Aberystwyth nos Fercher.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i gartref ar Ffordd Loveden am tua 19:20 wedi adroddiad bod sawl bang uchel yn dod o'r tŷ.

Dywed plismyn bod y dyn yn parhau yn y ddalfa "a'u bod ar gyngor arbenigwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cau'r ardal tra bod ymholiadau yn parhau".

"Mae'n ofynnol i ni wagio rhai o'r tai cyfagos ac rydyn yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys a'r cyngor lleol i achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosib i'r gymuned yn lleol ac i geisio dod â'r mater i ben yn fuan," meddai'r llu.

"Mae'r cyngor lleol wedi creu canolfan i gefnogi y rhai sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden Plas Crug."

Daeth cyhoeddiad yn ddiweddarach nos Iau fod pawb wedi cael dychwelyd i'w cartrefi a'r ffordd wedi ailagor.

Pynciau cysylltiedig