O Barbados i Fethesda: Stori mabwysiadu un dyn

  • Cyhoeddwyd
Gerallt Wyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gerallt Wyn Jones

Ac yntau yn berson hil-gymysg oedd wedi cael ei fagu mewn i deulu gwyn, gwyddai Gerallt Wyn Jones o oedran cynnar ei fod wedi cael ei fabwysiadu.

Ar Ynys Môn gafodd o'r fagwraeth honno a phan gyrhaeddodd 16 oed mi roddodd ei fam y dystiolaeth o'i flaen ar bapur.

Ar ôl edrych trwy adroddiadau'r asiantaethau mabwysiadu a gweithwyr cymdeithasol, mi roddodd y dogfennau i gadw am flynyddoedd maith. Credodd efallai nad oedd ei fam ei eisiau.

"Doeddwn i ddim yn gwbod be' i neud efo fo i fod yn onast so neshi adael o am flynyddoedd," meddai wrth Aled Hughes yn Dojo yn Nyffryn Ogwen, lle mae'n cynnal gwersi Martial Arts.

Disgrifiad,

Gerallt yn cael ei holi am ei stori gan Aled Hughes

Ond yn ystod cyfnod clo 2020 mi estynnodd Gerallt y papurau allan unwaith eto.

"Nath o roi chydig o amser i fi feddwl… Neshi neud DNA test fel presant pen-blwydd i fi fy hun a wnaeth hwnna greu mwy o interest mae'n debyg i weld lle yn Affrica o'n i 'di dod o a lle oedd Mam 'di dod o yn wreiddiol."

A dyna oedd dechrau siwrnai hir Gerallt i ddarganfod ei wreiddiau, fel rydyn ni'n cael gwybod ar raglen deledu Searching for my other Mam: Our Lives ar BBC2.

'Rŵan dwi'n un o wyth'

Cafodd Gerallt "y gic ddwytha" oedd o angen i ddechrau ar y daith gan ei ferch Fflur. "Hi 'di'r un sydd efo'r cwestiynau mawr bob tro… Hi sydd 'di pwsio fi fynd yn bellach.

"Mae gen i frawd hefyd o'r enw Rich a gafodd o ei fagu gan deulu hollol wahanol. Oedd o yn 16 hefyd pan gafodd o ei ddogfennau a doedd 'na ddim byd yn ei stwff o. Dim byd am ei dad o a dim byd am ei fam o.

"Felly do'n i ddim yn disgwyl lot i fod yn bapurau fi. Ond oedd 'na lot…"

Disgrifiad o’r llun,

Gerallt a'i frawd Rich

Aeth Gerallt ati i ddefnyddio Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ym mis Mawrth 2022 a mis yn ddiweddarach roedd o mewn cysylltiad â'i chwaer fengaf Danielle, oedd hefyd yn ferch i'w dad o Barbados.

Ond gyda'r newyddion da daeth newyddion drwg hefyd.

"Dwi'n meddwl oedd hi dridiau ar ôl angladd fy nhad pan wnaeth llythyr Jackie (o'r Gwasanaeth Mabwysiadu) gyrraedd fy chwaer fach," meddai Gerallt.

"Nathi hi ddeud bo' ni 'di ffeindio brodyr, chwiorydd, antis, yncls ond 'da ni 'di cael y darn o'r stori fod dy dad wedi marw. O'n i'n cicio fy hun.

Disgrifiad o’r llun,

Gerallt gyda Jackie o'r Gwasanaeth Mabwysiadu

"Ond fel mae Danielle fy chwaer fach yn deud, one door opens and one door closes a oedd hi'n teimlo yn falch uffernol bo' fi 'di dod mewn cysylltiad efo hi.

"Felly mae gen i frawd a chwaer hŷn na fi do'n i ddim yn gwbod dim byd amdan. O'n i'n meddwl o'n i'n un o ddau, ond rŵan dwi'n un o wyth."

Hiliaeth

Nid hawdd oedd magwraeth Gerallt ar Ynys Môn ac roedd o'n teimlo yn wahanol i bawb arall oherwydd lliw ei groen.

"Oedd o'r adeg lle'r oedd 'na dal skinheads, y 70s a'r 80s," meddai. "Dwi'n cofio diwrnod cynta' ysgol, nes i adael efo black eye. Oedd o'n rwbath oedd yn digwydd reit aml.

"Y peth da am fyw lle o'n i'n byw oedd roedd o filltiroedd i ffwrdd. So pan o'n i adra o'n i adra, o'n i i ffwrdd o bob dim.

"Rhan fwyaf o'r amsar roedd o'n iawn, heblaw pan ro'n i yn yr ysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Gerallt a'i fam mabwysiadu, Olwen

Cyfarfod ei fam

Gyda'i dad yn ddu a'i fam yn wyn mi chwaraeodd lliw croen ran fawr yn y rheswm pam gafodd o ei wahanu gan ei fam yn wreiddiol hefyd.

Mae Gerallt bellach mewn cysylltiad gyda hi ac wedi dod i ddeall yr heriau oedd yn wynebu mamau sengl gyda phlentyn hil gymysg flynyddoedd yn ôl.

Meddai Gerallt: "Mae'n rhaid i fi ddeud mai un peth dw i wedi dysgu drwy'r broses yma ydi pa mor wahanol oedd bob dim trwy'r 60s a'r 70s a heddiw.

"Es i i Fanceinion, ag oedd hi'n nerfus iawn. Roedd hi jest yn nerfus iawn bo' fi yn meddwl y gwaethaf amdani.

"Pan nes i ddarllan y pages cyntaf 'na pan o'n i'n 16, mae'n rhaid i fi ddeud yn hollol onest, mi roedd 'na resentment at Mam, mwy na Dad oherwydd mae o'n deud 'your father offered marriage, but it was refused'.

Disgrifiad o’r llun,

Gerallt yn Dojo Bethesda

"Ond os oedda chdi yn single unwed mother yn cael plentyn, heb sôn am y ffaith fod o yn mixed race child faint o broblemau fasa hynny yn costio i chdi a dy deulu i ddechra? Yr awgrym cyntaf roeddan nhw yn gael oedd 'you don't want that baby, let it go, move on with your life'.

"Mae hwnna yn stori yn ei hun. Doedd Mam ddim efo dim syniad bo' hi efo'r modd i edrych amdanom ni.

"Mae'r rheolau 'di newid, dwi'n meddwl yn y 1990s, ond doedd neb oedd wedi mabwysiadu allan 'di cael y news fod nhw yn gallu chwilio am eu plant. Doedd neb wedi deud. Ac roedd hwnna yn sioc iddi hi.

"Mae o'n heart wrenching."

'Cropian'

Mae Gerallt dal mewn cysylltiad â'i fam, ond "cropian" maen nhw ar hyn o bryd. "Fel mae Olwen, fy mam mabwysiadu, yn deud… It's about time Ger."

"Relief ydi'r gair mwyaf. Cyn i fi ddechrau ymchwilio o'n i'n edrych mewn i straeon pobl eraill ac edrych be' oedd y broses a sut mae o wedi cwblhau a be' oedd y diwedd iddo fo.

"Mae rhai yn bositif, rhai ddim mor bositif felly mae 'na bob tro chydig bach o 'hmm, pa ffordd eith hyn?'

"Felly dwi'n meddwl relief ydi'r peth mwya' ond dwi hefyd yn cicio fy hun am beidio dechra' fo flynyddoedd yn ôl ac ella bod 'na chydig bach o anxiety neu, fel plentyn… rejection.

"Dwi 'di tyfu fel person trwy'r broses a dwi 'di dysgu lot am bobl o lefydd gwahanol ac am lle dwi 'di dod o a fy ochr i o'r stori."