Seremoni i gyhoeddi'r Brenin Charles III yn swyddogol

  • Cyhoeddwyd
Brenin Charles III
Disgrifiad o’r llun,

Y Brenin Charles III yn siarad yn ystod seremoni Cyngor yr Esgyniad fore Sadwrn

Mae'r Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Llywydd y Senedd, Elin Jones wedi mynychu seremoni Cyngor yr Esgyniad yn Llundain ddydd Sadwrn, wrth i'r Brenin Charles III gael ei gyhoeddi'n swyddogol fel Brenin.

Fe ddechreuodd seremoni'r proclamasiwn am 10:00, gyda'r proclamasiwn yn cael ei ddarllen ac yna'i arwyddo'n ffurfiol.

Yn dilyn hynny fe wnaeth y Brenin Charles III annerch Cyngor yr Esgyniad yn Ystafell yr Orsedd ym Mhalas St James, gan gyhoeddi marwolaeth ei "annwyl fam, y Frenhines".

"Fe wnaeth fy Mam roi esiampl o gariad gydol oes a gwasanaeth anhunanol," meddai.

"Roedd ei theyrnasiad yn ddigymar yn ei hirhoedledd ac ymroddiad. Hyd yn oed wrth i ni alaru, rydym yn diolch am y bywyd ffydlon hwn.

"Rwy'n ymwybodol iawn o'r etifeddiaeth ddofn ac o'r cyfrifoldebau a dyletswyddau dwys sydd nawr yn pasio i mi."

Disgrifiad o’r llun,

Y trwmpedi ar falconi Palas St James i nodi'r proclamasiwn yn cael ei ddarllen yn gyhoeddus am y tro cyntaf

Fe wnaeth yr Arglwydd Lywydd Penny Mordaunt, oedd yn cadeirio'r seremoni, gadarnhau y bydd diwrnod angladd Brenhines Elizabeth II yn ŵyl y banc swyddogol, a hynny gyda sêl bendith y Brenin.

Cafodd y proclamasiwn wedyn ei ddarllen am y tro cyntaf yn gyhoeddus am 11:00 o falconi Palas St James.

Ar draws y Deyrnas Unedig, mae baneri wedi bod yn cyhwfan yn llawn dros gyfnod y proclamasiwn ddydd Sadwrn, cyn dychwelyd i hanner mast ddydd Sul, wrth i'r cyfnod o alaru barhau.

Disgrifiad,

Y gynnau'n tanio yng Nghastell Caerdydd i nodi'r proclamasiwn

Yng Nghastell Caerdydd bu gynau'n tanio saliwt i nodi'r proclamasiwn yn Llundain ddydd Sadwrn.

Fe fydd proclamasiwn swyddogol yng Nghastell Caerdydd ddydd Sul, am hanner dydd.

Cyn y seremoni, fe fydd milwyr o fataliwn y Cymry Brenhinol yn gorymdeithio o Neuadd y Ddinas i'r castell.

Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd Cymru fod yn bresennol, ac fe fydd hyd at 2,000 o aelodau'r cyhoedd yn cael mynychu hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Torf yn gwylio'r gynnau'n tanio yng Nghastell Caerdydd i nodi'r proclamasiwn

Mae nifer o ddigwyddiadau chwaraeon yng Nghymru wedi eu canslo dros y penwythnos i ddangos parch i'r Frenhines Elizabeth II.

Bydd Llyfrau o Gydymdeimlad yn cael eu hagor yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru o 11:00, i roi cyfle i'r cyhoedd ysgrifennu neges o ddiolch.

Cyngor yr Esgyniad

Disgrifiad,

Trefn y bore ar gyfer proclamasiwn Brenin Charles III

Mae Cyngor yr Esgyniad yn draddodiad hynafol sy'n rhoi gwybod yn swyddogol am benodiad y Brenin newydd.

Mae seremoni Cyngor yr Esgyniad ym Mhalas St James yn cynnwys aelodau'r Cyfrin Gyngor - grŵp o ASau presennol a blaenorol - ynghyd ag uwch gomisiynwyr y Gymanwlad, Arglwydd Faer Llundain a rhai gweision sifil.

Mae dwy ran i Gyngor yr Esgyniad.

Mae'r rhan cyntaf yn cynnwys aelodau'r Cyfrin Gyngor yn cyhoeddi'n swyddogol y sofran newydd heb bresenoldeb y Brenin.

Fe fydd yr ail ran o'r cyfarfod yn cynnwys y Brenin Charles yn tyngu llw, ac yn cwrdd yn swyddogol â'r Cyfrin Gyngor am y tro cyntaf.

Ffynhonnell y llun, POOL
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Brenin Charles gyfarfod â'r Prif Weinidog Liz Truss brynhawn ddydd Gwener

Yn draddodiadol, mae'r proclamasiwn yn gyfres o weddïau a llwon sy'n canmol y Brenin neu Frenhines flaenorol, ac yn datgan cefnogaeth i'r Brenin newydd.

Fel gyda phob un o'r seremonïau hyn, bydd sylw'n cael ei roi i'r hyn allai fod wedi cael ei addasu, ychwanegu neu ddiweddaru yn y proclamasiwn, fel arwydd o oes newydd.

Mae disgwyl i'r proclamasiwn gael ei ddarllen yng Nghymru ac mewn mannau eraill ar draws y Deyrnas Unedig am 12:00 ddydd Sul.

Bydd Aelodau'r Senedd hefyd yn cael eu galw yn ôl i dalu teyrngedau ddydd Sul, ond mae holl fusnes arall y Senedd wedi'i ohirio nes ar ôl y cyfnod o alaru cenedlaethol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carys Roberts yn un a ddaeth i Gastell Caerdydd fore Sadwrn gan ei bod yn "teimlo dros y teulu Brenhinol"

Ymhlith y rheiny oedd wedi ymgynnull yng Nghastell Caerdydd fore Sadwrn oedd Carys Roberts. Fe ddywedodd ei bod hi yno er mwyn "bod yn rhan o hanes".

"Mae'n rhywbeth mawr, mawr iawn sydd 'di digwydd," meddai.

"Ni'n teimlo'n eitha' trist, ni'n teimlo dros y teulu. Mae'r Frenhines wedi 'neud lot ar gyfer y wlad."

Wrth edrych ymlaen at esgyniad y Brenin Charles III i'r orsedd, ychwanegodd: "Jyst gobeithio 'neith e setlo mewn i'r rôl a gwneud beth sydd yn bwysig iddo fe ar gyfer y wlad hefyd."

Gohirio digwyddiadau

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu gohirio yn ystod cyfnod o alaru swyddogol yn dilyn marwolaeth y Frenhines.

Fore Sadwrn, fe wnaeth yr Arglwydd Lywydd Penny Mordaunt a oedd yn cadeirio'r seremoni gadarnhau y bydd diwrnod angladd Brenhines Elizabeth II yn ŵyl y banc swyddogol.

Daeth cadarnhad gan y BBC bod noson olaf y Proms, oedd i fod i ddigwydd yn Llundain nos Sadwrn, wedi cael ei chanslo.

Mae nifer o ddigwyddiadau chwaraeon wedi eu gohirio dros y penwythnos fel arwydd o barch.

Disgrifiad o’r llun,

Milwyr yn gorymdeithio yng Nghastell Caerdydd cyn i'r gynnau danio i nodi'r proclamasiwn ddydd Sul

Ni fydd gemau rygbi timau dros 18 oed yn cael eu chwarae o gwbl, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gohirio gemau ar bob lefel.

Ond bydd gemau rygbi plant yn cael eu cynnal.

Fe ddywedodd Undeb Rygbi Cymru: "Mae gan gemau plant o dan 18 oed a oedd wedi cael eu trefnu o flaen llaw ganiatâd i barhau dros y penwythnos, ond mae gofyn i glybiau i arsylwi dwy funud o dawelwch cyn pob gêm."

Mae gornest bocsio Lauren Price yn yr 02 yn Llundain hefyd wedi cael ei ohirio, yn dilyn penderfyniad i ganslo bob gornest dros y penwythnos.

Fe fydd cystadleuaeth Ironman Cymru yn Sir Benfro yn cael ei chynnal, ond mae'r gystadleuaeth ar gyfer plant ddydd Sadwrn wedi ei ohirio.