Gohirio a chanslo digwyddiadau yn sgil marwolaeth y Frenhines

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr a chefnogwyr West Ham ac FCSB yn cael munud o dawelwch yn Llundain nos IauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr a chefnogwyr West Ham ac FCSB yn cael munud o dawelwch yn Llundain nos Iau

Mae nifer o ddigwyddiadau ledled y DU wedi'u canslo neu eu gohirio er cof am y Frenhines Elizabeth II a fu farw yn dawel yn Balmoral ddydd Iau yn 96 oed.

Mae undebau llafur wedi gohirio gweithredu diwydiannol fel arwydd o barch.

Roedd streic bost ddeuddydd i fod i ddechrau ddydd Gwener ac roedd gweithwyr rheilffyrdd wedi bwriadu streicio ddiwedd yr wythnos nesaf.

Daeth cadarnhad gan y BBC bod noson olaf y Proms, oedd i fod i ddigwydd yn Llundain nos Sadwrn, wedi cael ei chanslo.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud na fydd ysgolion a cholegau'n cau am y tro.

Mewn datganiad, dywedodd y llywodraeth y dylai ysgolion barhau i agor fel arfer, ond y byddai cyngor pellach unwaith y bydd manylion yr angladd wedi eu cadarnhau.

Mae sawl cyngor sir wedi cyhoeddi bod cyfarfodydd yn cael eu gohirio am gyfnod fel arwydd o barch.

Ym myd y campau, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru bellach wedi cadarnhau na fydd gemau domestig yn mynd yn eu blaen y penwythnos hwn.

Roedd Cynghrair Bêl-droed Lloegr eisoes wedi cadarnhau bod yr holl gemau pêl-droed oedd i fod i ddigwydd dros y penwythnos wedi eu gohirio.

Cafodd gêm griced Lloegr yn erbyn De Affrica, pencampwriaeth golff y PGA yn Wentworth, a chweched cymal ras seiclo Taith Prydain eu gohirio hefyd.

Fe fydd y criced a'r golff yn ailddechrau ddydd Sadwrn.

Bydd dim rasio ceffylau yn digwydd yn y DU chwaith, a bydd yna ddim ornestau bocsio dros y penwythnos, gan gynnwys gornest Lauren Price yn erbyn Timea Belik yn arena 02 Llundain nos Sadwrn.

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru brynhawn Gwener na fyddai gemau oedolion yn digwydd dros y penwythnos.

Dywedodd yr Undeb bod gan "gemau plant bach, iau a dan 18 sydd eisoes wedi eu trefnu ganiatâd i barhau er mwyn osgoi unrhyw amharu i blant a theuluoedd".

Ond mae "gofyn i glybiau oedi am ddwy funud o dawelwch cyn bob gêm", ychwanegodd y datganiad.

Roedd gemau cyfeillgar rhwng y Scarlets a'r Gweilch, a Rygbi Caerdydd a Zebre nos Wener eisoes wedi'u canslo.

Ni fydd ras Ironman Cymru i blant - Ironkids - yn digwydd ddydd Sadwrn, ond fe fydd ras yr oedolion yn cael ei chynnal ddydd Sul.

Pwy sy'n penderfynu?

Roedd canllawiau galaru cenedlaethol Llywodraeth y DU yn cynghori nad oedd canslo gemau neu ddigwyddiadau yn orfodol, gan adael y penderfyniad i'r campau eu hunain.

Mae'r cyngor hefyd yn datgan nad oes gorfodaeth i ganslo ar ddiwrnod yr angladd chwaith.

Ond mae'n awgrymu y gellir aildrefnu gemau neu ddigwyddiadau fel nad ydyn nhw'n digwydd ar adeg y gwasanaeth.