CPD Wrecsam: 'Siom' ar ôl i rai darfu ar funud o dawelwch
- Cyhoeddwyd

Cadarnhaodd CPD Wrecsam bod staff y clwb wedi gofyn i "nifer fechan" adael y Cae Ras "er diogelwch eu hunain"
Mae Clwb Pêl-Droed Wrecsam wedi datgan ei 'siom' yn dilyn tarfu ar funud o dawelwch gan "nifer fechan o gefnogwyr".
Cynhaliwyd cyfnod i ddangos parch i Elizabeth II cyn pob gêm yng Nghyngrair Genedlaethol Lloegr nos Fawrth, yn ogystal â'r rheiny a chwaraewyd yn y Gynghrair Bêl-Droed.
Aeth y munudau o dawelwch yn eu blaenau heb darfu yn y mwyafrif o feysydd, gan gynnwys Stadiwm Swansea.com cyn gêm Abertawe yn erbyn Sheffield United.
Ond cyn eu gêm gartref yn erbyn Dagenham nos Fawrth, cadarnhaodd CPD Wrecsam bod staff y clwb wedi gofyn i "nifer fechan" adael y Cae Ras "er diogelwch eu hunain".
Mewn datganiad dywedodd y clwb: "Siom oedd clywed y tarfu ar y munud o distawrwydd cyn i'r fuddugoliaeth 4-1 yn erbyn Dagenham & Redbridge gan nifer fechan o unigolion ymhlith y 9,835 oedd yn bresennol.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Nid yw cael enw'r clwb yn y cyfryngau y bore yma am yr holl resymau anghywir yn senario a ddylai fod wedi digwydd a dymunwn ymddiheuro i bawb am dramgwyddwyd gan weithredoedd y lleiafrif, tra'n diolch i'r mwyafrif helaeth a arsylwodd y munud o dawelwch.
"Gofynnwyd i nifer o'r unigolion a darfodd ar munud o dawelwch i adael y Cae Ras er diogelwch eu hunain."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2022