Teyrngedau i ddyn, 18, fu farw mewn gwrthdrawiad ym Medlinog

  • Cyhoeddwyd
Jac ThomasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad lle bu farw Jac Thomas, 18

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn ifanc, 18, gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad ger Bedlinog, Merthyr Tudful ddydd Sadwrn.

Bu farw Jac Thomas, oedd yn reidio beic modur KTM yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad am tua 16:00 ar Y Stryd Fawr yn y pentref.

Mae Heddlu'r De wedi apelio am unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad neu a welodd y beic modur cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

'Llawn egni a bywyd'

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Jac Thomas ei fod yn gymeriad "unigryw".

"Roedd yn llawn egni a bywyd, yn allblyg a charedig ac yn fwy na hynny yn ffrind, mab a brawd ffyddlon.

"Mae'n deg dweud ei fod yn byw bywyd i'r eithaf. Roedd e wrthi'n dechrau canfod ei ffordd mewn bywyd ac yn edrych ymlaen at beth oedd gan y bennod nesaf i'w gynnig.

"Roedd e newydd ddarganfod hapusrwydd mewn perthynas newydd ac roeddem mor falch i weld y llawenydd yr oedd hyn yn ei roi iddo.

"Bydd Jac yn cael ei golli'n arw gan bawb oedd yn ei adnabod, ac rydym ni fel teulu wedi cael cysur mawr yn y geiriau caredig a chefnogaeth gan y gymuned gyfan.

"Hoffem hefyd ddiolch i'r holl wasanaethau brys ac unrhyw un arall a geisiodd helpu Jac."

Pynciau cysylltiedig