Menyw gafodd ei thagu wedi marw chwe blynedd yn ddiweddarach

  • Cyhoeddwyd
Stacey Gwilliam a Keith Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymosododd Keith Hughes ar ei gyn-ddyweddi, Stacey Gwilliam, ym mis Gorffennaf 2015

Mae cwest wedi clywed y bu farw menyw a gafodd ei thagu gan ei chyn-ddyweddi yn Abertawe yn 2015 chwe blynedd yn ddiweddarach ar ôl cael problemau parhaus yn y frest.

Cofnododd y crwner mai damwain oedd y farwolaeth ar ôl i Stacey Gwilliam gymryd ei meddyginiaeth ei hun.

Fe ymosododd Keith Hughes ar Ms Gwilliam wrth gerdded ar hyd llwybr yr arfordir rhwng Bae Bracelet a Bae Langland.

Cafodd Hughes ei garcharu am leiafswm o wyth mlynedd ar ôl ei gael yn euog yn Llys y Goron Abertawe am geisio lladd.

'Dysgu sut i gerdded a siarad eto'

Fe glywodd y cwest i Ms Gwilliam dreulio tri mis yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad yng Ngorffennaf 2015 a bu'n rhaid iddi ddysgu sut i gerdded a siarad eto.

Dywedodd PC Tom Evans o Heddlu De Cymru bod Stacey, oedd yn arfer gweithio i Virgin Atlantic, wedi dioddef sawl cyfnod o pneumonia yn y blynyddoedd wedyn.

"Roedd hi'n dioddef gydag iselder a gorbryder difrifol ac o pneumonia yn sgil yr hyn ddigwyddodd," dywedodd.

Bu farw yn 40 oed.

Clywodd y cwest bod Ms Gwilliam, o Townhill, Abertawe, wedi cwrdd â Hughes yn 2011 cyn iddo ddechrau troi'n ymosodol.

Dywedodd PC Evans bod y teulu wedi sylwi bod gan Stacey "farciau a chleisiau" ar ei chorff yn ystod y berthynas. Roedden nhw'n poeni am ei diogelwch.

Cafodd Hughes ei garcharu am leiafswm o wyth mlynedd gan y Barnwr Paul Thomas yn Llys y Goron Abertawe.

Clywodd y cwest bod Stacey wedi marw yn ei chartref yn Nhachwedd y llynedd ar ôl cael haint ar y frest.

Fe ffoniodd y meddyg teulu ddiwrnod cyn y farwolaeth a chafodd ei chynghori i gymryd gwrthfiotigau.

Ond, bu farw yn ei gwely y diwrnod canlynol ar ôl cymryd ei meddyginiaeth ei hun er mwyn ceisio trin yr haint.

Clywodd y llys bod Stacey wedi dechrau archebu ei meddyginiaeth ei hun ar-lein. Daeth adroddiadau tocsicoleg o hyd i nifer o gyffuriau tawelyddol yn ei system oedd, gan fwyaf, wedi cael eu rhoi ar bresgripsiwn.

Daeth archwiliad post mortem Dr John Williams i gasgliad mai achos y farwolaeth oedd bronchopneumonia ynghyd â gwenwyn cyffuriau.

Cofnododd y crwner farwolaeth ar gamgymeriad gan ddweud "nad oedd tystiolaeth ei bod hi'n bwriadu rhoi diwedd ar ei bywyd ar yr adeg hon."

Pynciau cysylltiedig