'Perthynas cariad a chasineb gyda chyffur sy'n fy nhgadw'n fyw'

  • Cyhoeddwyd
Helen Presdee-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Methodd arennau Helen Presdee-Jones pan roedd hi'n 16 oed

"Pan dwi'n edrych yn y drych dwi ddim yn fy ngweld i, dwi ddim yn gweld y person roeddwn i'n arfer bod."

Mae gan Helen Presdee-Jones berthynas gymhleth gyda'r steroidau, sydd wedi newid ei hedrychiad ond sy'n ei chadw'n fyw.

Dywedodd fod cefnogaeth emosiynol a lles yn allweddol i'r rhai sy'n byw gyda salwch hirdymor, cronig.

Daw wrth i un cardiolegydd alw am fwy o ffocws ar les emosiynol cleifion sydd â chyflyrau hirdymor.

Dywedodd Dr Nav Masani bod cleifion yn gwella'n well pan fydd eu holl anghenion - corfforol a meddyliol - yn cael eu cefnogi.

Mae wedi bod yn cefnogi elusen i greu mannau mewn ysbytai ar gyfer sgyrsiau clinigol anodd.

Mae Mentro i Freuddwydio yn canolbwyntio ar les emosiynol oedolion yng Nghymru sydd â salwch cronig.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn ymwybodol iawn o'r heriau" ac wedi cynyddu'r cyllid sydd ar gael.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Helen cyn iddi dechrau cymryd meddyginiaeth ar gyfer trawsblaniad aren

Methodd arennau Ms Presdee-Jones, sy'n byw ger Cross Hands yn Sir Gâr, pan roedd hi'n 16 oed. Ers hynny mae wedi derbyn dau drawsblaniad aren.

Ond oherwydd cymhlethdodau bydd yn rhaid iddi gymryd steroidau am weddill ei hoes, sy'n achosi iddi fagu pwysau ac i'w hwyneb chwyddo.

"Yn bendant mae yna berthynas o gariad a chasineb gyda nhw," meddai.

"Os na gymera'i nhw, na'i golli fy nhrawsblaniad, ond os gwnaf, mae'n rhaid i mi ddelio â'r sgîl-effeithiau.

"Dydw i ddim eisiau bod mewn ffotograffau nawr."

Menopos cynnar

Ar ben hynny, yn ystod y pedair blynedd diwethaf mae hi hefyd wedi cael triniaeth lwyddiannus ar gyfer tiwmor anfalaen (benign) ar yr ymennydd a chanser ceg y groth.

Er ei bod yn ystyried ei hun fel rhywun sy'n canolbwyntio ar bethau positif, y llynedd fe drodd at therapi i'w helpu i brosesu ei theimladau.

"Datblygodd yr holl emosiynau yma, ac oherwydd fy nhriniaeth canser gorffennodd fy mislif yn gynnar ac es i i'r menopos cynnar. Roedd hynny'n garreg filltir fawr, oherwydd roedd yn golygu fod yr opsiwn o gael plant wedi ei gau i mi."

Mae hi bellach yn cefnogi'r elusen Mentro i Freuddwydio, sy'n canolbwyntio ar les emosiynol oedolion yng Nghymru sydd â salwch cronig.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Helen Presdee-Jones ar wyliau

Mae'r elusen hefyd yn trawsnewid ystafelloedd ysbytai i greu mannau tawel i gleifion fod gydag anwyliaid, neu gael sgyrsiau preifat gyda thimau clinigol.

"O ran y GIG, ychydig iawn o le sydd ar gael. Dysgais i fod gennyf diwmor ar yr ymennydd mewn ward gymunedol gyda'r llenni rownd y gwely ar gau. Doedd gen i ddim amser i allu prosesu hynny," meddai Ms Presdee-Jones, 43.

Gan bwysleisio nad yw'n golygu hynny fel beirniadaeth o'r GIG, fe ychwanegodd: "Dyna'r cyfyngiadau maen nhw'n gweithio gyda nhw".

Profiadau 'trawmatig iawn'

Cytunodd Dr Nav Masani, cardiolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, y gallai'r amgylchedd a'r gefnogaeth gywir gael effaith fawr.

"Ni'n gwybod bod cleifion a'u teuluoedd wedi mynd trwy brofiadau trawmatig iawn ar wardiau cardioleg," meddai.

"Weithiau maen nhw wedi dod yn ôl atom a dweud bod yr hyn oedd wedi aros yn y meddwl yn rhywbeth i'w wneud â'r amgylchedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dr Nav Masani: "Mae angen ffocws cynyddol ar iechyd a lles emosiynol"

Mae ei dîm a'i gleifion yn cael defnyddio un o'r ystafelloedd a adnewyddwyd gan Mentro i Freuddwydio - mae Dr Masani'n ymddiriedolwr i'r elusen.

Fel clinigwr sy'n trin oedolion ifanc yn bennaf, mae'n ymwybodol o'u hanghenion penodol.

"Efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw gymryd mwy o amser i ffwrdd o'r ysgol, neu eu bod yn dod dan bwysau grŵp cyfoedion nad sy'n bodoli o fewn grŵp oedran hŷn," meddai.

"Efallai y byddan nhw'n colli allan ar weithgareddau y gall eu ffrindiau eu gwneud. Ac mae rhai ohonyn nhw heb amheuaeth yn gorfod wynebu'r ofn cynyddol o orfod dod yn ôl i'r ysbyty dro ar ôl tro.

"Felly i wneud hynny gyda chyflwr iechyd hirdymor mae angen ffocws cynyddol ar iechyd a lles emosiynol."

Disgrifiad o’r llun,

Sefydlodd Barbara Chidgey yr elusen Mentro i Freuddwydio, gyda'r bwriad o wella iechyd meddwl cleifion

Barbara Chidgey yw sylfaenydd a chadeirydd Mentro i Freuddwydio, a dywedodd fod adborth gan y rhai y maent yn eu cefnogi yn tanlinellu thema fawr i lawer o gleifion ifanc.

"Mae gan gleifion sy'n oedolion ifanc anghenion iechyd a lles emosiynol penodol," meddai.

"Dwi methu dychmygu sut brofiad fyddai bod yn eich arddegau â chyflwr cronig difrifol, pan fydd eich ffrindiau i gyd yn gallu mynd allan i glybio.

"Felly rydyn ni'n hwyluso gweithgareddau a gwasanaethau llesiant i mewn ac allan o'r ysbyty, yn ogystal â thrawsnewid mannau fel yr ystafelloedd tawel mewn ysbytai lle mae llawer o sgyrsiau anodd yn digwydd."

Mwy o gyllid

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru bod cyllid wedi ei gynyddu i helpu pobl reoli eu cyflyrau.

"Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n wynebu pobl sy'n byw gyda salwch cronig a hirdymor ac rydym yn gweithio gyda'r GIG i sicrhau bod pob claf yn cael eu cefnogi," meddai llefarydd.

"Bydd ein cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio yn helpu pobl i reoli eu cyflwr, cyn ac ar ôl triniaeth.

"Rydym wedi cynyddu cyllid i wella mynediad at ystod ehangach o therapïau seicolegol i helpu cefnogi iechyd a lles emosiynol pobl.

"Rydym hefyd yn datblygu safonau a chanllawiau newydd ar bresgripsiynu cymdeithasol sydd eisoes yn chwarae rhan mewn hybu lles pobl yng Nghymru."