Menyw â phoen cronig yn 'ddibynnol' ar boenladdwyr
- Cyhoeddwyd
Mae menyw sy'n dioddef o boen cronig wedi rhybuddio am beryglon poenladdwyr.
Mae Niki Jones wedi gorfod cymryd poenladdwyr cryf ers 18 mlynedd i drin poen y dechreuodd ei ddioddef pan oedd hi'n 31 oed.
Dywed y fenyw 49 oed o Aberhonddu bod y cyffuriau wedi gwaethygu ei chyflwr, mewn gwirionedd, a'i bod heb ddechrau gwella nes iddi chwilio am driniaethau eraill.
"Byddai'n dda gen i pe bawn i erioed wedi bod arnyn nhw," meddai.
"Dwi ddim angen y cyffur ar gyfer poen. Dwi angen y cyffur am fod fy ymennydd a fy nghorff yn ddibynnol arno."
Dechreuodd Niki ddioddef poen eithriadol ar ochr ei hwyneb Noswyl Nadolig 2002.
Cafodd ddiagnosis o'r cyflwr niwralgia teircainc (trigeminal neuralgia) a dechreuodd ar gylchdaith o gyffuriau, llawdriniaethau a meddyginiaethau cryfach.
Bu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w gyrfa lwyddiannus gyda'r Awdurdod Rasio Ceffylau Prydeinig yn Llundain, a symud yn ôl i dŷ ei rhieni yn Aberhonddu.
Dywed bod ei chyflwr wedi dirywio cymaint ar un adeg, fel ei bod yn gorfod defnyddio ffon i gerdded ond ychydig.
Yn ddiweddarach cafodd ei rhoi ar fentanyl, cyffur opioid synthetig, cryf, yr oedd yn ei gymryd ar ffurf lolipops melys, sydd wedi difetha'i dannedd.
Dywed Niki ei bod yn dal yn "ddibynnol" ar y cyffur, a'i bod yn teimlo fel lladd ei hun pan mae meddygon yn ceisio'i thynnu hi oddi arno.
Lleihad poen 'dramatig'
Yn 2019, wedi dros ddegawd o ddioddef, awgrymwyd iddi archwilio triniaethau eraill.
Dechreuodd wneud dawnsio bale, a bod yn fwy ymwybodol o ymarfer corff, cymdeithasu a myfyrio fel triniaeth.
Lleihaodd ei phoen "yn ddramatig" o fewn tri mis - llawer mwy na'r hyn a gyflawnwyd mewn 18 mlynedd ar boenladdwyr, mae'n honni.
Ym mis Ebrill argymhellodd NICE - y corff arolygu meddyginiaethau - y dylai pobl sy'n dioddef poen cronig dderbyn therapi corfforol a seicolegol yn hytrach na chyffuriau presgripsiwn.
Dywedodd Niki bod derbyn na fyddai'r boen yn diflannu'n llwyr yn allweddol i'w hadferiad - rhywbeth yr oedd yn gobeithio y byddai cyffuriau wedi'i gyflawni.
Er gwaethaf ei hadferiad, mae Niki'n dal i orfod cymryd fentanyl yn ddyddiol, ac mae'n wynebu colli ei dannedd o fewn y degawd nesaf a chael tynnu ei choden fustl (gall bladder).
"Dwi erioed wedi camddefnyddio cyffuriau. Byddwn yn stopio yfory pe bawn i'n gallu," meddai.
"Pe bai rhywun yn dweud 'ti'n gwybod y gelli di stopio yfory?' fuaswn i ddim yn cyffwrdd fentanyl eto.
"Pan gefais fy rhoi ar y cyffuriau, wrth gydsynio dwi ddim yn meddwl fy mod wedi cael digon o wybodaeth ynglŷn â pha mor hawdd oedd hi i fynd yn ddibynnol arnyn nhw."
Dywed Niki ei bod weithiau'n teimlo ei bod hi'n cael ei "beio" am ei dibyniaeth ar gyffuriau, ac nad yw wedi derbyn ymddiheuriad gan unrhyw ddoctor.
"Does 'na'r un meddyg yn dweud 'mae'r wyddoniaeth wedi newid, mae'n ddrwg iawn gennym eich bod ar y sothach yma yr ydych yn gaeth iddo, ac rydym am eich cefnogi chi i ddod oddi arno'.
"Maen nhw just yn osgoi'r peth."
"Fe ddylai'r llywodraeth gamu i mewn a chefnogi pobl achos nid y fi yw'r unig un, o bell ffordd, sydd â phroblemau dibyniaeth ar gyffuriau," meddai Niki.
'Ymateb i ddibyniaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "ystod o adnoddau ar gael".
"Dylai pobl sy'n byw gyda phoen cronig gysylltu gyda'u gwasanaethau arferol i drafod gofynion eu triniaeth...
"Mae hyn yn cynnwys dulliau heblaw cyffuriau pan fo hynny'n addas, ac osgoi defnydd diangen o feddyginiaethau.
"Pan mae meddyginiaethau'n cael eu rhagnodi dylai gweithwyr iechyd proffesiynol wneud trefniadau am adolygiadau rheolaidd ac i driniaethau gael eu stopio pan nad ydynt bellach o unrhyw fudd.
"Rydym yn buddsoddi bron i £55m bob blwyddyn i ddarparu ystod o wasanaethau i ymateb i bob ffurf o ddibyniaeth cyffuriau ac alcohol, yn cynnwys dibyniaeth ar gyffuriau rhagnod a dros-y-cownter."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd16 Medi 2017