Y Gynghrair Genedlaethol: Southend United 0-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Tîm canol y Gynghrair Genedlaethol oedd gwrthwynebwyr Wrecsam ddydd Sadwrn wrth iddynt ymweld â Southend.
Fe ddaeth y Dreigiau yn agos at sgorio yn yr hanner cyntaf ond cyfartal oedd hi ar hanner amser.
Southend oedd y tîm cryfaf yn yr ail hanner gan ddod yn agos iawn at sgorio sawl gwaith.
Roedd y tîm cartref yn credu iddynt sgorio ac wedi dychwelyd i'w hanner eu hunain pan benderfynodd y dyfarnwr fod yna gamsefyll ac nad oedd y gôl yn ddilys.
Roedd Wrecsam dan bwysau ym munudau olaf y gêm ond dal gafael ar yr un pwynt wnaeth y Dreigiau.