Ymchwiliad i dân 'difrifol' mewn tŷ yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae person yn cael triniaeth am effeithiau anadlu mwg wedi tân difrifol mewn tŷ yng Nghaernarfon fore Sul.
Cafodd diffoddwyr o Gaernarfon a Llanberis eu hanfon i'r digwyddiad ar stad Ysgubor Goch am 09:30.
Roedd llawr isaf y tŷ teras yn "wenfflam" pan gyrhaeddodd y diffoddwyr tân. Cafodd cymdogion eu symud o'u cartrefi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymchwilio i'r digwyddiad.
Mae'r ffordd yn dal ynghau ac mae'r heddlu yn cynghori pobl i osgoi'r ardal.