Pryderu am yr hawl i brotestio
- Cyhoeddwyd
Yng nghanol yr holl bwyslais ar alaru cenedlaethol ers marwolaeth y Frenhines, mae dangos barn wahanol a chael yr hawl i brotestio wedi codi gwrychyn, gydag adroddiadau am weriniaethwyr wedi cael eu harestio am godi llais a dal placardau - hyd yn oed rhai gwag.
Y bargyfreithiwr Gwion Lewis CB, Cwnsler y Brenin sy'n arbenigo yn y gyfraith gyhoeddus a hawliau dynol, sy'n adlewyrchu ar brotestiadau'r cyfnod diwethaf.
A oes gen i hawl cynnal protest gyhoeddus yn ystod cyfnod o alaru cenedlaethol? I rai ohonom, bydd y cwestiwn hwn yn ymylu ar fod yn sarhaus.
Onid ydyw'n amhriodol - yn wir, yn ddi-chwaeth - ymgynnull yn gyhoeddus i herio'r drefn rai dyddiau'n unig wedi marwolaeth arweinydd a barchwyd gan y mwyfarif helaeth?
Go brin y byddai arbenigwyr etiquette yn cymeradwyo safiad o'r fath. Ond nid cwrteisi yw diben protest. Yn ei hanfod, mae protestio'n swnllyd ac yn anghyfleus. Tan yn ddiweddar, y gred gyffredinol yn y Deyrnas Unedig oedd fod yr anghyfleuster hwn yn bris gwerth ei dalu er mwyn gwarchod ein hawl sylfaenol i fynegi'n barn.
Mae lle i amau a yw rhai o'n sefydliadau cyhoeddus yn dal i gredu hynny.
Ystyriwch, er enghraifft, y ddynes 22 oed a gafodd ei harestio yng Nghaeredin yr wythnos ddiwethaf am "darfu ar yr heddwch" oherwydd iddi ddal arwydd gwrth-frenhinol yn ystod ymweliad Charles III. Heb os, roedd yr iaith liwgar ar yr arwydd yn groes i ddifrifoldeb yr achlysur. Ond nid oedd penderfyniad llawdrwm yr heddlu i'w harestio am fynegi barn anghyfleus yn y traddodiad Prydeinig.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Nid achos unigol oedd hwn yn ystod yr wythnos ryfeddol a fu. Yn Rhydychen, arestiwyd dyn dan amheuaeth o ymddwyn mewn modd a fyddai'n debygol o "godi braw neu ofid" oherwydd iddo weiddi'r geiriau "Who elected him?" wrth i esgyniad y Brenin gael ei gyhoeddi'n swyddogol yn y ddinas.
Cafodd y dyn ei ddadarestio maes o law, ond camgymeriad fyddai dehongli hynny fel cyfaddefiad gan yr heddlu na ddylsent fod wedi ei arestio yn y lle cyntaf.
Hawdd fyddai ceisio esgusodi'r penderfyniadau hyn fel rhai a wnaed gan heddlu o dan straen mewn amgylchiadau eithriadol. Ond yn fy marn i, arwyddion ydynt o newid diwylliannol dyfnach a ddigwyddodd yn ystod y pandemig.
Drwy gydol y clo mawr, disgwylid i'r heddlu blismona'r cyfyngiadau mwyaf eithafol ar hawliau sifil ym Mhrydain yn y cyfnod modern, yn eu plith yr hawl i ymgynnull gyda'n gilydd. Yn ôl ein harweinwyr gwleidyddol ar y pryd, mesurau dros dro yn unig oeddent er mwyn ymateb i argyfwng.
Naïf oedd credu na fyddai'r arbrawf digynsail hwn yn arwain at rai newidadau mwy parhaol yn y berthynas rhwng yr heddlu a'r dinesydd. Os yw heddwas wedi arfer dirwyo pobl am gerdded yn rhy bell o'u tai, mae'n llai tebygol o ofidio am oblygiadau tawelu protestwyr anghyfleus.
Gwelir y diwylliant newydd, ôl-Covid hwn yn treiddio drwy un o'r deddfau mwyaf problemus i mi ddod ar ei thraws yn fy ngyrfa fel bargyfreithiwr, sef Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022 a ddaeth i rym yn gynharach eleni.
Ymysg y mesurau dadleuol yn y Ddeddf y mae gwaharddiad newydd ar greu "risg" o beri "niwed difrifol" i'r cyhoedd, gyda'r Ddeddf yn datgan y gall "anfodlonrwydd" neu "anghyfleuster" gyfri fel "niwed". Nid yw'r Ddeddf yn diffinio yr hyn o olygir wrth "anfodlonrwydd" neu "anghyfleuster" difrifol - gwendid annerbyniol yn y Ddeddf gan fod trosglwyddo'r cyfrifoldeb hwn i heddweision yn debygol iawn o'u gorfodi i wneud penderfyniadau gwleidyddol eu natur ynglŷn â pha brotestiadau sy'n dderbyniol.
Beth pe bai'r brotest a gafwyd yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf yn erbyn parhad y teitl Tywysog Cymru wedi bod yn brotest a ellid ei chlywed, yn hytrach na phrotest dawel? Hawdd gweld sut y gallai'r awdurdodau ddadlau fod "risg" y gallai protest o'r fath arwain at "anghyfleuster difrifol" mewn cyfnod ansicr yn gyfansoddiadol.
Yn ôl Llywodraeth San Steffan, mae angen y Ddeddf newydd i ymateb i dactegau amgen mudiadau fel Extinction Rebellion ac Insulate Britain. Nid yw'r ddadl hon yn dal dŵr gan fod tactegau'r mudiadau hyn - difrodi eiddo a rhwystro trafnidiaeth - eisoes yn groes i ddeddfau a basiwyd blynyddoedd lawer yn ôl.
Mewn gwirionedd, nid llenwi bwlch cyfreithiol y mae Deddf 2022 ond diwallu angen gwleidyddol i roi'r argraff o weithredu yn erbyn protestiadau amhoblogaidd. Yn y misoedd i ddod, mae'n hanfodol nad yw Deddf 2022 yn cael ei chamddefnyddio i lesteirio trafodaeth fywiog a chynhwysol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Hefyd o ddiddordeb: