Thomas Jones: Un o arlunwyr mawr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae 26 Medi yn nodi 180 mlynedd ers geni yr arlunydd o Faesyfed, Thomas Jones. Mae'n un o'r artistiaid enwocaf erioed o Gymru, ac fe wnaeth enw iddo'i hun yn peintio tirluniau.
Mae T. Gwyn Williams yn arlunydd ac yn hanesydd celf. Yma mae'n rhoi rhywfaint o hanes Thomas Jones a'r byd celf o'r cyfnod.
Yn 1761 aeth Thomas Jones i Lundain, ac fe gafodd le fel disgybl efo'r arlunydd llwyddiannus Richard Wilson, Cymro arall; mae posib sôn am ryw maffia bach Cymreig yn Llundain ar y pryd.
Ei gampwaith o'r cyfnod cynnar yw Y Bardd (The Bard), olew ar gynfas (1774). Mae'r darlun bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd - ewch i'w weld!
Mae dylanwad y cyfnod, ac Wilson, i'w weld yn nhestun ac arddull y darlun. Mae'n cael ei ddisgrifio fel darlun yn y Grand Manner yn adlewyrchu ei gyfnod, mae agweddau gwleidyddol i'r darn. Fel heddiw roedd tensiynau rhwng Ewrop (Gatholig) â Phrydain (Protestannaidd).
Nid oedd Thomas Jones yn hyderus wrth greu ffigyrau felly roedd ganddo gydweithiwr yn ei helpu - yr arlunydd John Hamilton Mortimer oedd yn gwneud hyn.
Mae'n annhebyg fod Thomas Jones wedi bod i Eryri ond gwyddwn ei fod wedi ymweld â Chôr y Cewri - gwelir y cerrig enwog a gysylltir gyda'r Derwyddon yn y llun.
Dylanwad 'Y Bardd'
Ysgrifennodd y bardd Thomas Gray awdl Pindaric (math o farddoniadeth wedi'i enwi ar ôl y bardd Pindar o'r hen Roeg) ar destun 'The Bard'. Hanes ymgyrch Edward y Cyntaf i ddileu'r Cymry a Llewelyn ap Gruffudd gawn yn y farddoniaeth, a chrëwyd cyswllt rhwng safiad y Cymry a chadernid Eryri.
Gwelwyd yn y farddoniaeth atsain o'r Gymru gynt yn gwrthsefyll grym Rhufeiniaid (cyfandir Ewrop) a hefyd pryderon cyfoes am safiad Prydain Brotestannaidd yn erbyn Ewrop Gatholig, (daeth rhyfeloedd efo Napoleon rhwng 1789 a 1815).
Rhan o'r 'cofio' oedd llw Edward I i ladd beirdd y Cymry i ddinistrio eu hanes a'u traddodiadau.
Roedd arlunydd arall, Paul Sandby (1752-1809), wedi creu llun llwyddiannus iawn ar y testun yn 1760, ond mae bellach ar goll felly gwaith TJ sydd yn goroesi.
Roedd Thomas Jones yn cyfri'r darlun fel un o'i gampweithiau, ac yn wir roedd mor llwyddiannus iddo gael ei ail greu fel Mezotint - dyma ffordd o ledaenu enwogrwydd y gwaith a chreu ffynhonnell ariannol, ond fe brynwyd y platiau argraffu gan John Boydell (Cymro arall o Benarlâg).
Mae'n bwysig nodi mai Thomas Jones oedd yr arlunydd cyntaf o dras Gymreig i gael hunangofiant wedi ei gyhoeddi.
Roedd wedi cadw dyddiadur manwl trwy ran fwyaf o'i oes ac mae'r ddogfen hon (cafodd ei gyhoeddi yn 1951) yn agoriad llygad ar ei gyfnod a'i gyfoedion. Mae'n canlyn ei yrfa, ei amser yn Llundain efo Wilson, ei amser yn Ffrainc ac yr Eidal a'r cyfnod pan ddaeth yn ôl i Brydain.
Mae'n nodi pethau diddorol, fel yr amser roedd myfyrwyr Wilson yn camymddwyn a daeth y Meistr i'r astudio a dweud "Boneddigion nid dyma ffordd i gystadlu efo Claud Lorrain".
Roedd ei gyfnod yn Llundain yn un llwyddiannus. Dysgodd gan Wilson i greu brasluniau bychain mewn olew ar bapur, allan yn yr awyr agored - dim gwaith i'w werthu ond diddanwch llwyr, yn rhagweld be wnaeth arlunwyr fel Camil Coro ac Ysgol Babizon yn Ffrainc 1830 -1870.
Yn 1776 aeth i'r Eidal ac roedd dylanwad Wilson yn fawr a'i ymateb i'r lle a'r tirlun.
Tra yn yr Eidal daeth yn gyfeillgar â John Robert Cozens (1752- 1797), arlunydd hynod ddylanwadol ar waith Constable, Girtin a Turner. Roedd Cozens yn cynhyrchu gwaith dyfrlliw, cyfnewidiol dirgelaidd.
O'i gyfnod yn yr Eidal (roedd yno am chwe blynedd), yn Rhufain ond yn enwedig ei gyfnod yn Napoli, daw'r gwaith sydd yn denu'r sylw heddiw.
Dechreuodd greu darluniau bychain maint cerdyn post sydd erbyn heddiw i'w gweld fel ei wir gampweithiau.
Roedd yn dal i greu lluniau yn y modd clasurol ond dechreuodd gyfres o waith personol, heb fwriad i werthu.
Ei waith yn Napoli
Yn y gwaith yma o'i gyfnod yn Napoli mae rhywbeth gwyrthiol yn digwydd.
Cawn olygfeydd trwy ffenestr ei westy, mae yma lonyddwch di-ddrama. Ni welwn y tir/llawr, rydym yn edrych ar yr olygfa o fan uchel neu o fan isel, mae'n dadgysylltu ei weledigaeth o angorfa'r tir.
Mae'r ddaear wedi diflannu, golyga hyn nad tirluniau cyffredin ydynt - maent wedi eu rhyddhau rhywsut. Does dim elfen yn serennu na thestun arbennig - waliau brics a phlaster wedi ei dreulio gan amser a thywydd. Rwyf yn siŵr mai amser siesta sydd yma, dim pobl. Mae'r haul poeth yn llifo, teimlwn ddistawrwydd a phwysau'r eiliadau.
Teimlwn haul angerddol y de, deallwn draul tywydd ac amser ar y waliau. Mae ffenestri a drysau, rhai wedi cau gan gwerchyrion, eraill yn ddwfn a thywyll yn pwysleisio absenoldeb, bron seibiant amser?
Ni fedrwn weld testun amlwg, mae'r gwacter yma yn ein hudoli - mae effaith tebyg yng ngwaith Gwen John a'r Americanwr Edward Hopper.
Meistr darluniau waliau
Mae sylw manwl yma, nid syllu drwy'r ffenestr a dylunio beth sydd yno. Mae rhaid canolbwyntio i ofalu bod pob elfen o'r gwaith yn mynnu sylw; cydbwysedd y dyluniant, y lliwiau, y cropio ar yr ymylon yn dod at ei gilydd i greu'r llonyddwch a'r absenoldeb.
Yn wir mae'r waliau ei hunain yn hudolus, ac mae Thomas Jones yn cael ei ystyried, fel Vermeer, fel un o'r cewri am beintio waliau. Maent yn fach, bron yn llai na mae'r llygad yn gallu gweld (braf buasai gallu eu dal yn y llaw i'w astudio yn fanwl). Mae eu maint a natur eu gwneud yn creu rhyw synthesis perffaith sydd tu hwnt i fwriad - gwnaethpwyd i ddiddanu ei hun heb feddwl am agenda ehangach.
Cyfrifir Rooftops Napoli a Buildings in Napoli (sydd i'w gweld yng Nghaerdydd) fel dau o'r dyluniadau olew ar bapur gorau celf y Gorllewin.
Dychwelodd Thomas Jones i Lundain ar farwolaeth ei dad yn 1782, ac fe ddinistriwyd llawer o'i eiddo a'i luniau ar y siwrne adref.
Ceisiodd ailgydio yn ei yrfa gan wario peth o'i amser yn creu Wilsons 'ffug', ond cafodd £300 y flwyddyn o ewyllys ei dad ac nid oedd pwysau ariannol arno mwyach. Erbyn 1785 teimlodd fod ei yrfa fel arlunydd ar ben.
Ar farwolaeth ei frawd hynaf yn 1787 fe etifeddodd stad Pencerrig ger Llanelwedd. Daliodd i gadw ei ddyddiadur a defnyddio ei lyfr sgets i gofnodi digwyddiadau ar y stad, newidiadau amaethyddol ac ati.
O'r cyfnod hwyr yna daw dyfrlliw arbennig A Rocky Outcrop at Pencerrig (1796) sydd ymysg y darnau olaf a wnaeth - eto, i ddiddanu ei hun.
Bu farw 1803 yn 60 mlwydd oed.
Hefyd o ddiddordeb: