Cosbi pêl-droediwr ifanc am gicio gwrthwynebydd

  • Cyhoeddwyd
Llys Y Goron Yr Wyddgrug
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr achos ei glywed yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Clywodd llys fod pêl-droediwr ifanc wedi cicio chwaraewr arall o leiaf deirgwaith yn ei wyneb ac achosi iddo fod yn anymwybodol yn ystod gêm yng ngogledd Cymru.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau, cafodd y bachgen 17 oed, na ellir ei enwi, ei wahardd rhag bod mewn unrhyw gêm dan unrhyw amgylchiadau am ddwy flynedd.

Cafodd hefyd orchymyn ailsefydlu ieuenctid ddwy flynedd o hyd, a bydd yn rhaid iddo wneud 200 o oriau o waith yn ddi-dâl.

Ar ben hynny, bydd yn rhaid i'w deulu dalu £8,000 mewn iawndal i'r dioddefwr, a gafodd anaf parhaol yn sgil yr ymosodiad.

Dywedodd y Barnwr Nicola Saffman bod y dioddefwr wedi colli'r cyfle i chwarae pêl-droed am byth, a dyna'r rheswm dros y gwaharddiad yn achos yr ymosodwr.

'Carchar petaech yn oedolyn'

Roedd y diffynnydd wedi cyfaddef iddo achosi niwed corfforol difrifol yn ystod gêm bêl-droed ieuenctid yng ngogledd Cymru.

Dywedodd y barnwr ei fod wedi torri sawl asgwrn yn wyneb y dioddefwr ac roedd angen iddo gael dwy lawdriniaeth dan anesthetig cyffredinol.

Bu'n rhaid gosod platiau a sgriwiau yn ei wyneb, sydd wedi ei andwyo am byth.

Dywedodd y barnwr wrth y diffynnydd: "Heb amheuaeth, pe byddech chi'n oedolyn byddwn i yn eich anfon i'r carchar am o leiaf dair blynedd."

Pynciau cysylltiedig