Cwmni drymiau Cymreig ar lwyfannau mawr y byd
- Cyhoeddwyd
Mewn garej fechan ym Mhontyclun mae dau ffrind yn creu drymiau i fandiau ac artistiaid yng Nghymru a thu hwnt.
Sefydlodd Rhys Thomas a Geraint Frowen eu cwmni Tarian Drums yn 2018 yng ngarej Rhys ym Mhontyclun. Ar ôl i Rhys roi ychydig o wersi drymio i Geraint, sylweddolodd y ddau bod ganddynt lawer yn gyffredin ac un o'r pethau rheiny oedd eu dymuniad i sefydlu eu busnes eu hunain.
Gyda chefndir Rhys mewn gwaith pren a dawn Geraint gyda phaent - a chariad y ddau at gerddoriaeth - roedd hi'n bartneriaeth berffaith.
Yn gynharach eleni, ar ôl derbyn benthyciad busnes, prynodd y ddau offer newydd er mwyn gallu cynyddu'r nifer o ddrymiau maen nhw'n ei gyhyrchu. Maen nhw hefyd wedi cyflenwi drymiau i fandiau fel Alffa, The Struts a gŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau. Un o ddrymiau Tarian oedd gan Tudur Owen pan berfformiodd gyda Candelas yn Sesiwn Fawr.
Gobaith Rhys a Geraint rŵan yw ehangu'r busnes a'i dyfu er mwyn gallu cystadlu â chwmnïau mawr y byd drymiau. Gwyliwch y fideo i wylio eu taith.
Hefyd o ddiddordeb: