Bil ynni cartref arferol yn £2,500 y flwyddyn o Hydref - Truss

  • Cyhoeddwyd
Liz Truss

Mae'r Prif Weinidog Liz Truss wedi cyhoeddi y bydd biliau ynni cartref arferol yn £2,500 y flwyddyn o fis Hydref.

Mae hynny'n golygu y bydd y cartref arferol yn arbed £1,000, a bydd busnesau a chyrff cyhoeddus hefyd yn cael cefnogaeth.

Roedd disgwyl i filiau ynni domestig gynyddu ar gyfartaledd i £3,549 cyn cynllun newydd Liz Truss.

Mi fydd cynllun y 'Gwarant Pris Ynni' yn para dwy flynedd gan ddechrau ar 1 Hydref eleni.

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai'r cynllun yn rhoi hwb sylweddol i'r economi wedi "degawdau o feddwl tymor byr ar ynni".

Yn ôl Llywodraeth y DU, fe fydd y cynlluniau yn mynd i'r afael â gwraidd y problemau yn y farchnad ynni drwy hybu cyflenwadau ynni domestig.

Mi fyddan nhw'n talu am y cynllun drwy fenthyg o leiaf £100 biliwn.

Gyda'i gilydd, mi fydd y cymorth yn golygu bod biliau arferol yn aros yn agos i'r lefel presennol.

Yn ôl y Canghellor newydd, Kwasi Kwarteng, bydd "miliynau o deuluoedd a busnesau yn teimlo ryddhad mawr, wrth wybod bod y Llywodraeth yn gefn iddyn nhw y gaeaf yma a'r nesaf.

"Mi fyddai pris gwneud dim yn llawer uwch na'r gost o ymyrryd... gallwn ni roi cefnogaeth ar frys nawr," ychwanegodd.

Cynllun chwe mis i gefnogi busnesau

Mae'r uchafswm prisiau ynni yn golygu bod uchafswm ar bob uned o ynni, ond nid ar bob bil.

Nid oes uchafswm ar filiau sydd ddim yn ddomestig, fel cwmnïau a gwasanaethau cyhoeddus, ac mae rhai yn wynebu cynnydd o hyd at 500% yn eu prisiau ynni.

Bydd cynllun tebyg i'r 'Gwarant Pris Ynni' i'r sefydliadau yma fydd yn para chwe mis. Ar ôl y chwe mis cyntaf, bydd Llywodraeth y DU yn rhoi cefnogaeth wedi ei dargedu tuag at "ddiwydiannau bregus", fel lletygarwch.

Yn ôl y Prif Weinidog, bydd adolygiad o fewn tri mis i benderfynu sut i dargedu'r arian hyn.

Yn y cyfamser, meddai, "dylai cwmnïau edrych ar sut i arbed ynni a bod yn fwy effeithlon."

Mae Liz Truss wedi cyhoeddi hefyd y bydd y gwaharddiad ar ffracio'n dod i ben yn Lloegr. Dywedodd y byddai Llywodraeth Prydain yn caniatáu 100 o drwyddedau i gasglu olew a nwy.

Ond Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am drwyddedau fel hyn yma, ac mae'r gwaharddiad yn parhau.

Bydd cronfa yn cael ei sefydlu i gefnogi'r rheiny sy'n defnyddio gwres olew, rhwydweithiau ynni neu yn byw ar barc carafannau.

Mae cynlluniau i fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy hefyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nod y cyhoeddiad yw lleddfu rhywfaint o'r straen sydd ar gartrefi a busnesau wrth i gostau byw gynyddu dros y gaeaf

Bydd capio prisiau ynni am ddwy flynedd "yn rhoi rhywfaint o sicrwydd wedi misoedd o bryder", medd yr elusen Cyngor ar Bopeth, ond maen nhw'n rhybuddio "na fydd hynny ynddo'i hyn yn datrys yr argyfwng costau byw".

Yn ôl cyfarwyddwr cynorthwyol yr elusen yng Nghymru, Luke Young, bydd misoedd y gaeaf yn dal yn rhai anodd i deuluoedd incwm isel a bregus.

Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i "symud yn gyflym" i sicrhau bod pobl yn "teimlo budd cyhoeddiadau heddiw", yn arbennig rheiny sy'n defnyddio olew a nwy botel i gynhesu eu cartrefi.

Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ganolbwyntio'n ddygn ar y Cynllun Cymorth Tanwydd a thaliadau eraill i'r rhai sy'n gymwys".

Disgrifiad,

Cwestiynau gan Mark Drakeford dros gyhoeddiad ynni

Er bod Er bod Mr Drakeford yn "croesawu'r ffaith bod sicrwydd" gyda'r cap, dywedodd nad oes "unrhyw sicrwydd o gwbl i deuluoedd gyda chostau byw cyffredinol a chostau bwyd, er enghraifft."

"Ni ddim wedi clywed dim byd heddiw o ran ble mae'r arian wedi dod ac i dalu am beth mae'r prif weinidog wedi dweud."

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, Keir Starmer, nad yw cynllun Liz Truss "yn un rhad" ac mai "pobl sy'n gweithio fydd yn talu am hynny."

Yn y cyfamser dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yno, Ed Davey, fod y cynllun dal yn gadael "teuluoedd a phensiynwyr yn wynebu dewisiadau amhosib y gaeaf hwn wrth i filiau ynni bron â dyblu."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies ei fod yn falch bod llywodraeth Liz Truss yn gweithredu mor gyflym "fel y gallai aelwydydd a busnesau gael sicrwydd a chefnogaeth yn wyneb costau ynni sy'n cynyddu".

Dywedodd bod angen camau "i wneud y DU yn fwy hunan-gynhaliol o ran cynhyrchu ynni ac osgoi'r un sefyllfa," gan groesawu'r bwriad i ehangu cynlluniau niwclear, olew a nwy Môr y Gogledd ac i fuddsoddi rhagor mewn ynni adnewyddadwy.

Pynciau cysylltiedig