Owain Arthur: O Riwlas i Middle-earth

  • Cyhoeddwyd
Owain Arthur yn, clocwedd o'r chwith uchaf, Rownd a Rownd, Cei Bach, Casualty a the Lord of the Rings: the Rings of PowerFfynhonnell y llun, BBC/S4C/Amazon Studios
Disgrifiad o’r llun,

Owain Arthur yn, clocwedd o'r chwith uchaf, Rownd a Rownd, Cei Bach, Casualty a the Lord of the Rings: the Rings of Power

Mae o i'w weld ar y teledu mewn cartrefi ar draws y byd yn The Lord of the Rings: the Rings of Power, ond onibai am ei Nain mae'n bosib na fyddai o wedi dechrau actio o gwbl.

Owain Arthur fu'n trafod ei yrfa ar Y Sioe Sadwrn a'r camau aeth ag o o fod yn blentyn yn cicio pêl ym mhentref Rhiwlas, ger Bangor, i chwarae rhan tywysog Durin IV yn Middle-earth yng nghyfres Amazon Prime.

Ffynhonnell y llun, Ben Rothstein/Prime Video/Amazon Studios
Disgrifiad o’r llun,

Owain Arthur fel Durin IV a Sophia Nomvete fel Tywysoges Disa

Glanaethwy, Theatr Gwynedd a Rownd a Rownd

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Owain Arthur gyda Rownd a Rownd ar ddiwedd y 90au i actio'r cymeriad Aled Shaw

Theatr Gwynedd oedd y job broffesiynol gynta' gesh i. O'n i'n mynd i Glaenaethwy pan o'n i'n ifanc - Nain wnaeth dalu am y gwersi yna. Do'n i ddim rili isio mynd a bod yn hollol onest. O'n i jest isio aros adra a chwarae pêl-droed, ond mi eshi.

Un diwrnod dyma Cefin Roberts yn dweud "dyna fo, fel Owain da chi isio gwneud" wrth y dosbarth a dyma fi'n meddwl "w, hold on dwi 'di gwneud rwbath yn iawn a dwi 'di cael clod amdano fo - Duw sticia i efo hyn dwi'n meddwl".

Dyna wnaeth wneud i fi gario mlaen efo fo dwi'n meddwl.

O wneud y sioe William Jones wedyn efo Theatr Gwynedd geshi bythefnos ar Rownd a Rownd a dyma Robin Evans a Sue Waters (cynhyrchwyr y gyfres) yn penderfynu cadw fi 'mlaen a fanna fues i am naw mlynedd.

Pob un eiliad o'n i wrth fy modd yno roedd o'n brofiad gwych, hyfryd a dwi dal yn ffrindiau mwy neu lai efo pob un actor oedd ar y sioe a'r criw hefyd. Roedd o'n job wych i rywun ifanc dyfu fyny a dysgu efo fo.

  • Gwrandewch ar Owain Arthur yn dewis ei hoff ganeuon ac yn sgwrsio gyda Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips ar Y Sioe Sadwrn

Cei Bach

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Owain fel Prys Plismon a Mirain Haf fel ei wraig, Mari ar Cei Bach

Dwi'n anghofio weithia' bod Cei Bach yn dal i gael ei ddangos... achos roedd o'n gyfnod o ryw wyth wsnos neu rwbath i ffilmio - neu ffilmio un gyfres. Wnaethon ni ffilmio hwnnw nol yn 2009/2010 a ma' nhw dal i ddangos o.

Be' sy'n grêt ydi bod plant fy ffrindiau i a fy nheulu i yn ei wylio fo a ma'n ddiddorol eu gweld nhw'n sbotio Yncl Ows ar y teledu fel Prys Plismon. Mae o'n neis jest i weld eu wynebau nhw.

Casualty

Atgofion melys a fues i'n lwcus. Doedd y stori ddim yn un hapus iawn ond roedd o yn stori oedd yn pwshio fy ngallu i fel actor.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Owain Arthur yn chwarae rhan Glen yng nghyfres drama'r BBC Casualty

Wnaeth o wneud i fi fynd i le eitha' tywyll o ran bod fy nghymeriad i efo brain tumor ac roeddan ni'n gwybod bod dim lot iddo fo fyw ac roedd ganddo fo blentyn efo Robyn. Ond roedd o'n brofiad gwych.

Mae pawb oedd yn Casualty yn bobl neis - yn actorion hyfryd a wnâi byth anghofio Amanda Mealing, wnaeth gyfarwyddo penodau ola' fi yn y sioe - ma' hi jest yn ddynes hyfryd ac yn rhoi digon o amser i chdi ffeindio dy emosiwn.

One Man, Two Guvnors

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cael y brif ran yn One Man Two Guvnors yn y West End yn hwb enfawr i yrfa Owain

Ma' rhaid i fi ddweud, ma' sbïo nôl ar One Man, Two Guvnors - hwnna ydi'r job lle geshi yr amser gorau yn fy mywyd dwi'n meddwl, yn sicr ar y llwyfan. Roedd o'n bullet proof - roedd y sgript mor glyfar ac roedd o'n rhoi rhyddid i fi fel actor jest cael improvisio ar y llwyfan a chael pobl i fyny, ac roedd petha'n mynd yn wrong.

Roedd cael teithio'r sioe i Landudno a Chaerdydd, dyna oedd y cyfnod gorau geshi ar y sioe yna - cael dod a hi adra i Gymru a jest cael yr ymateb gan gynulleidfa Cymru.

Dyna'r teimlad agosa' gai dwi'n meddwl i ddychmygu sut mae Tom Jones yn teimlo ar ôl neud gigs. Nath neb luchio eu nicars ata fi chwaith.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig