Tanwydd yn rhatach mewn garejys annibynnol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Rhaid cadw golwg ar y cystadleuwyr" meddai Siôn Jones o Valley Services yn Llandysul

Mae garejys bach annibynnol yn gwerthu tanwydd yn rhatach na rhai archfarchnadoedd erbyn hyn, mewn rhai rhannau o Gymru.

Dyna gasgliad gwaith ymchwil gan yr RAC sydd yn dweud nad yw "prisiau petrol wedi gostwng yn ddigonol".

Yn ôl Rod Dennis, llefarydd ar ran yr RAC, mae garejys annibynnol yn llwyddo i "guro'r archfarchnadoedd" ar brisiau petrol a disel.

Yn ôl Consortiwm Manwerthu Prydain, sy'n cynrychioli yr archfarchnadoedd mwyaf, mae "manwerthwyr wedi gostwng prisiau petrol yn sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf ac yn gwneud eu gorau i gynnig gwerth am arian a throsglwyddo unrhyw arbedion trwy'r gadwyn gyflenwi".

Gostwng 12c y litr

Mae ystadegau'r RAC yn dangos fod pris tanwydd di-blwm wedi gostwng 12.67 ceiniog y litr yng Nghymru yn ystod mis Awst.

Roedd yna ostyngiad o 7.89 ceiniog y litr mewn prisiau disel.

Ddiwedd Awst, roedd litr o danwydd di-blwm yng Nghymru yn costio 168.27 ceiniog y litr ar gyfartaledd, gyda disel yn costio 183.28 ceiniog y litr.

Yn ôl yr RAC, roedd yr archfarchnadoedd yn gwerthu tanwydd am 1.62 ceiniog yn llai na'r cyfartaledd. Fel arfer, maen nhw'n medru cynnig tanwydd dair ceiniog yn rhatach na'r cyfartaledd pris.

Yn ôl Rod Dennis mae hi'n ymddangos bod archfarchnadoedd yn rhoi mwy o bwyslais nawr ar werthu nwyddau yn eu siopau na gwerthu tanwydd am y pris rhataf - sydd wedi rhoi cyfle i garejys annibynnol elwa o'r sefyllfa.

Mae'n annog modurwyr i "ddod i 'nabod y garej leol" ac i wneud gwaith ar brisiau yn yr ardal cyn llenwi'r car.

Yn ôl Siôn Jones, Rheolwr Valley Services yn Llandysul, mae pobl erbyn hyn yn cymharu prisiau lleol cyn prynu tanwydd.

"Sdim dowt. Os mae rhywun yn rhatach lawr yr hewl, mae'n sales ni yn cwympo wedyn.

"Nôl ym mis Awst ni oedd un o'r rhai rhataf yn yr ardal a fuon ni yn ddigon prysur pryd 'ny. Mae'n rhaid cadw golwg ar y cystadleuwyr!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae prisiau Siôn Jones yn newid yn ddyddiol, felly mae'n gallu ymateb yn gynt i newidiadau mewn pris

Mae'n dweud bod garejys annibynnol yn medru ymateb yn gynt i newidiadau yn y pris cyfanwerthu (wholesale).

"Mae'r cwmniau mawr yn prynu fuel dair wythnos 'nôl felly maen nhw yn prynu pan mae'r pris yn uwch, ac mae fy mhris i yn newid yn ddyddiol felly dwi yn gallu symud yn gloiach.

"Pan mae'r pris lawr dwi'n gallu dod lawr yn gloiach."

'Gafael yr archfarchnadoedd yn llacio'

Mae Rod Dennis yn ychwanegu nad yw prisiau petrol yn gostwng yn ddigon sydyn, ond bod "gyrrwyr ceir disel yn cael pris teg am eu tanwydd".

Mae tystiolaeth bod gafael yr archfarchnadoedd ar y farchnad danwydd yn llacio rywfaint, wrth i rai garejys annibynnol gael cytundebau arbennig gan gyfanwerthwyr tanwydd, meddai arbenigwr.

"Mae lot o'r cwmnïau bach wedi gwneud deal gyda'r cwmnïau olew i gael pris llai am y tanwydd gan y cyfanwerthwr", meddai Stuart Cole, Athro Emeritws mewn Trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru.

"Maen nhw'n cael mantais felly, ac yn gallu codi llai am y tanwydd. Mae'r archfarchnadoedd hefyd yn cystadlu gyda'i gilydd.

"Mae rhai cwmnïau llai o faint yn prynu diwrnodau o flaen llaw. Mae cwmnïau mawr yn prynu misoedd o flaen llaw."

Mae'r Consortiwm Manwerthu Prydeinig yn cynrychioli rhai o'r archfarchnadoedd mwyaf fel Sainsbury's, Asda a WM Morrison.

Dywedodd Andrew Opie, Cyfarwyddwr Cynaladwyedd a Bwyd y Consortiwm: "Mae manwerthwyr wedi gostwng prisiau petrol yn sylweddol yn ystod y mis diwethaf, wrth i bris olew ostwng.

"Maen nhw'n ymwybodol o'r pwysau ariannol sydd ar fodurwyr ac yn gwneud popeth i geisio cynnig gwerth am arian mewn garejys.

"Maen nhw'n trosglwyddo arbedion wrth iddyn nhw weithio eu ffordd trwy'r gadwyn gyflenwi."

Pynciau cysylltiedig