CBDC 'heb wneud digon' am hawliau dynol Qatar
- Cyhoeddwyd
Mae elusen flaenllaw wedi datgan siom nad yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud digon i dynnu sylw at record hawliau dynol Qatar.
Gydag ychydig dros hanner can diwrnod tan gychwyn Cwpan y Byd, mae llawer o gynnwrf yng Nghymru ers i dîm Robert Page gymhwyso am y tro cyntaf ers 1958.
Ond mae rhai gwledydd yn barod wedi bod yn tynnu sylw at record y wlad.
Mae beirniadaeth lem wedi bod o sut mae Qatar yn trin gweithwyr o dramor, yn ogystal â'r gymdeithas LHDT+.
Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru'n dweud eu bod nhw am ddefnyddio'r gystadleuaeth i godi ymwybyddiaeth o hawliau dynol yn fyd-eang.
Dywedodd Felix Jaken o Amnest Rhyngwladol wrth Newyddion S4C: "Er bod y gymdeithas wedi dechrau sôn am syniadau positif ar ôl sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd, yn ddiweddar mae'n edrych yn debyg eu bod nhw wedi mynd yn dawel ar y pwnc."
Ers dynodi Qatar fel cartref Cwpan y Byd, mae record hawliau dynol y wlad wedi bod dan y chwyddwydr.
Mae nifer o sefydliadau wedi beirniadu eu triniaeth o weithwyr tramor, yn ogystal â'u hagwedd tuag at y gymuned LHDT+.
'Penderfyniad hawdd'
Mae Geraint Cynan wedi bod yn dilyn Cymru ers blynyddoedd, ond ni fydd yn teithio i'r Dwyrain Canol oherwydd ymddygiad y llywodraeth yno.
"Mi oedd e'n benderfyniad hawdd i fi i fod yn berffaith onest," meddai.
"Roeddwn ni'n teimlo'n gryf am hynny ers y dechrau am amrywiaeth o resymau - yn gyntaf oherwydd diffygion y wlad o ran hawliau dynol cyffredinol, yn enwedig yr atgasedd maen nhw'n dangos at y gymuned LGBTQ+.
"Ac ar ben hynny, y ffordd maen nhw wedi trin gweithwyr sydd wedi bod yn adeiladu'r stadiymau, a'r ffordd yr oedden nhw ddim hyd yn oed yn fodlon cyfaddef bod llawer ohonynt wedi marw."
Mae Denmarc a'i noddwyr Hummel wedi cyhoeddi cit arbennig mewn protest yn erbyn triniaeth gweithwyr yno.
Mae Lloegr hefyd wedi cyhoeddi y dylid talu iawndal i deuluoedd y gweithwyr yna sydd wedi marw.
Ond hyd yn hyn dydy Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim wedi gwneud datganiad tebyg, a dyna beth sydd wedi siomi Amnest Rhyngwladol.
'Wedi mynd i'r lleuad'
Ond yn ôl Mared Rhys Jones, un cefnogwr sydd wedi penderfynu teithio, roedd y cyfle i weld Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 yn gyfle roedd yn rhaid ei gymryd.
"I fi roedd o'n no brainer," meddai.
"Fysan ni wedi mynd i Gwpan y Byd dim ots lle oedd o - hyd yn oed pe bai o ar y lleuad.
"Ond yn amlwg mae o'n anodd a rhywbeth dwi yn meddwl amdano. Mewn un ffordd dwi yn teimlo'n euog achos allwch chi ddadlau dwi yn cyfrannu at yr holl beth."
Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru fe ddylai pawb, beth bynnag eu cefndir, allu fod yn mwynhau Cwpan y Byd.
Ychwanegon nhw eu bod am ddefnyddio'r gystadleuaeth i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd hawliau dynol yn fyd-eang.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2022