Galw ar Lafur i gydweithio gyda phleidiau eraill yn San Steffan

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark Drakeford yn siarad yng nghynhadledd y blaid yn Lerpwl ddydd Llun

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud wrth gynhadledd Llafur y dylai'r blaid fod yn barod i gydweithio gyda phleidiau eraill yn San Steffan.

Dywedodd Mark Drakeford ei bod yn ddyletswydd arnyn nhw i "wneud popeth yn eu gallu i ddod i rym".

Mae hefyd wedi bod yn trafod budd diwygio etholiadol, cyn i'r gynhadledd gynnal pleidlais ar y pwnc.

Mae rhai o fewn Llafur yn galw am newid ond mae arweinydd y blaid drwy'r DU, Syr Keir Starmer, wedi dweud nad yw hynny'n flaenoriaeth.

Yn hanesyddol mae'r blaid wedi ffafrio'r system bleidleisio cyntaf-heibio'r-terfyn, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU, ond mae 'na bwysau cynyddol ar yr arweinydd i newid hynny.

Mae rhai o fewn Llafur am i'r blaid gefnogi cynrychiolaeth gyfrannol (CG) - sef yr egwyddor fod nifer y seddi mae plaid yn eu hennill yn adlewyrchu nifer y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw.

Mae aelodau'r blaid i drafod a phleidleisio ar gynrychiolaeth gyfrannol yn y gynhadledd, ond mae ffynonellau wedi awgrymu i'r BBC na fydd hynny'n dod yn rhan o'u maniffesto.

Mae Senedd Cymru eisoes yn defnyddio elfennau CG er mwyn ethol aelodau rhanbarthol.

Yn y dyfodol fe fydd yn symud yn llwyr oddi wrth y system cyntaf-heibio'r-terfyn, o dan gynlluniau Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae Llafur Cymru mewn cytundeb i gydweithredu gyda Phlaid Cymru ers iddyn nhw ennill etholiad 2021, ond heb ddigon o fwyafrif i reoli'r Senedd ar eu pen eu hunain.

'Erioed wedi llywodraethu ar ein hunain'

Wrth annerch cynhadledd y blaid yn Lerpwl ddydd Llun, dywedodd Mr Drakeford y byddai penderfyniad Llafur Cymru i gefnogi'r newidiadau etholiadol yn "sicrhau y byddai pob pleidlais i Lafur yng Nghymru yn cyfri tuag at greu'r llywodraeth Lafur Cymreig nesaf".

Dywedodd: "Tra bod Llafur wedi ffurfio'r llywodraeth yng Nghymru bob amser, dy'n ni erioed wedi llywodraethu ar ein pen ein hunain.

"Ni'n canolbwyntio ar y meysydd ble mae pleidiau blaengar yn gallu cytuno, gwleidyddiaeth sy'n cydnabod safle Llafur fel y blaid gryfaf, ond sydd hefyd yn gwybod nag oes gan unrhyw blaid fonopoli ar syniadau da neu flaengar."

Gan gyfeirio at gyllideb fach Llywodraeth y DU'r wythnos ddiwethaf, dywedodd: "Yn wyneb y penderfyniadau ofnadwy'r wythnos ddiwethaf, mae'n ddyletswydd gwneud popeth y gallwn ni i gymryd a gweithredu grym, ar ran y corff enfawr o bobl weddus ar hyd a lled y DU."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Syr Keir Starmer gyda'r cyn-bêl-droediwr Gary Neville yn y gynhadledd ddydd Llun

Yn ôl Mr Drakeford mae 'na "siom cynyddol" nad yw llwyddiant Llafur yng Nghymru wedi cael ei adlewyrchu mewn rhannau eraill o'r DU.

Dywedodd: "Y rheswm canolog pam mae ein plaid yn bodoli, y rheswm mae ein haelodau yn gwneud popeth y'n ni'n ofyn ganddyn nhw... yw ein bod ni'n ceisio ennill grym gwleidyddol.

"Ry'n ni'n gwneud hynny am mai dyna'r unig ffordd y gallan ni wella bywydau'r rhai sy'n dibynnu ar y Blaid Lafur, sy'n dibynnu ar ein plaid i greu gwell dyfodol i ni gyd."

Yn gynharach roedd y cyn-Ganghellor Cysgodol, John McDonnell wedi awgrymu fod Syr Keir Starmer yn ymddwyn fel brenin ynglŷn â CG.

Mewn cyfweliad â phapur newydd yr Observer, roedd Syr Keir wedi awgrymu na fyddai'n cynnwys addewid am ddiwygio etholiadol ym maniffesto Llafur.

Ond mewn rali dros CG, dywedodd Mr McDonnell: "Rwy'n credu fod yn rhaid ei atgoffa fod ein penderfyniadau i gyd yn cael eu gwneud yn ddemocrataidd."