Drakeford yn annog Truss i weithredu ar gostau ynni

  • Cyhoeddwyd
Liz Truss a Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford (dde) ei fod yn edrych ymlaen at "berthynas bositif" gyda Liz Truss a'i llywodraeth newydd

Mae Prif Weinidog Cymru'n edrych ymlaen at "berthynas bositif" gyda Liz Truss, gan alw ar Brif Weinidog nesaf y DU i gydweithio ag ef ar yr argyfwng costau byw.

Fe gafodd Ms Truss ei hethol fel arweinydd newydd y Blaid Geidwadol ddydd Llun.

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford bod angen mynd i'r afael â chostau cynyddol ynni, ond dywedodd ei fod yn "anghredadwy" bod Ms Truss wedi awgrymu y "dylen ni wneud ein hunain yn fwy anghyfartal er mwyn llwyddo".

Fe wnaeth Mr Drakeford hefyd osgoi taro'n ôl i sylw wnaeth Liz Truss yn ystod yr ymgyrch arweinyddol, oedd yn ei gymharu i Jeremy Corbyn "egni isel".

Dywedodd Mr Drakeford bod sylwadau o'r fath "ddim o bwys i deuluoedd ledled Cymru sy'n byw mewn ofn am be ddaw'r gaeaf hwn".

'Anghredadwy'

Dros y penwythnos fe ddywedodd Ms Truss ei bod hi'n deg bod rheiny sy'n ennill mwy o arian yn cael mwy o arian yn ôl drwy dorri trethi.

"Mae edrych ar bopeth drwy lens ailddosbarthu yn anghywir," meddai Ms Truss.

Ond wrth ymateb i'w buddugoliaeth ddydd Llun, dywedodd Mr Drakeford bod hynny'n "anghredadwy" ei bod yn awgrymu "gwneud ein hunain yn fwy anghyfartal er mwyn llwyddo".

Dywedodd Mr Drakeford bod angen "manteisio ar dalent pawb a chreu gwlad fwy cyfartal", yn hytrach na gwlad sydd â llywodraeth "wedi ei ddylunio i wobrwyo'r rheiny sydd eisoes gyda mwy na maen nhw ei angen".

Apeliodd Mr Drakeford ar Ms Truss i achub "miliynau rhag caledi y gaeaf hwn" a dywedodd fod yn rhaid iddi weithredu nawr.

Disgrifiad o’r llun,

Heb gymorth i fusnesau, mae Ieuan Edwards yn rhagweld "llanast llwyr"

Daw wrth i bennaeth busnes yn y gogledd alw ar Ms Truss i gyflwyno cap ar brisiau ynni i gwmniau.

Roedd Ieuan Edwards o gwmniau cig Edwards o Gonwy a The Traditional Welsh Sausage Company Ltd yn ymateb ddyddiau ar ôl iddo glywed y gallai bil trydan ei gwmni godi o £2,000 yr wythnos i dros £15,000.

"Oedd costau rhedeg ynni fi flwyddyn diwethaf yn £129,000. A dydd Iau diwethaf mi ges i amcangyfrif y bydd o'n £782,000 yn y flwyddyn nesaf yma.

"Dwi wedi cael cadarnhad y bore 'ma bod y cynnig yna wedi cael ei dynnu oddi ar y bwrdd ac y bydd hi'n costio dros £1m i brynu ynni i'r busnes.

"Mae'r thing yn angredadwy a bod yn onest."

'Llanast llwyr'

"A dwi'm ar ben fy hun, mae hyn yn digwydd i filoedd ar filoedd o fusnesau ledled Prydain. Mae hon yn broblem ddyrys ac mae angen i'r prif weinidog newydd ymyrryd ar frys."

"Mae hi wedi gaddo llawer iawn. Dwi'n gobeithio 'neith hi gadw at ei gair."

"Yn bersonol, 'swn i'n licio gweld hi'n rhoi cap i fewn ar y pris. A dim cap fel ar deuluoedd achos mae hwnna'n gap diwerth achos mae o'n symud bob dau neu dri mis ac yn symud ar raddfa aruthrol. Mae cap yn golygu cap, lle dydy'r pis ddim yn symud."

Ychwanegodd y byddai'n fater i'r llywodraeth dalu'r gwahaniaeth wedyn rhwng y cap a phris y farchnad - gan awgrymu treth ar gwmniau ynni i helpu.

"Os na wneith hi hynny dwi'n pryderu yr eith hi'n llanast llwyr.

"Mae'r peth yn anhygoel ar hyn o bryd a dwi'm yn meddwl bod llawer o'r cyhoedd yn sylweddoli pa mor beryg a bregus ydy'r sefyllfa."

Disgrifiad,

Maia o dîm Cymru Fyw sy'n esbonio'r cap ar brisiau ynni

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi galw am gymorth Llywodraeth y DU i achub busnesau wrth i'r gaeaf agosau.

A chyd-weithio oedd prif nod Mark Drakeford, gan basio ar y cyfle i daro'n ôl at sylwadau Ms Truss yn ddiweddar.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru bod sylwadau wnaeth Liz Truss yn ystod yr ymgyrch arweinyddol, oedd yn ei gymharu i Jeremy Corbyn "egni isel", "ddim o bwys i deuluoedd ledled Cymru sy'n byw mewn ofn am be ddaw'r gaeaf hwn".

Fe wnaeth Ms Truss, a gafodd ei hethol fel arweinydd newydd y Blaid Geidwadol ddydd Llun, y sylwadau mewn hysting yng Nghaerdydd fis Awst.

Ar y pryd, wrth ymateb i sylwadau Ms Truss a'i gwrthwynebydd am yr arweinyddiaeth, Rishi Sunak, dywedodd Mr Drakeford bod "dim byd alla' i ei ddweud amdanynt nad ydynt wedi dweud am ei gilydd yn barod".

Pynciau cysylltiedig