Dyn, 62, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Port Talbot

  • Cyhoeddwyd
A4241Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd yr Harbwr, ger gweithfeydd dur Port Talbot

Mae dyn 62 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ym Mhort Talbot.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gar am tua 14:40 brynhawn Mawrth ar yr A4241, Ffordd yr Harbwr.

Bu farw gyrrwr Ford Fiesta, dyn o Dreforys, yn y fan a'r lle, ac fe gafodd gyrrwr Skoda Octavia ei gludo i'r ysbyty â man anafiadau.

Cafodd y ffordd ei chau am nifer o oriau yn dilyn y digwyddiad, ac mae Heddlu'r De yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig