'Plant â mwy o synnwyr na llunwyr polisïau llaeth'

  • Cyhoeddwyd
Cwpanau o laeth i blant mewn sesiwn i addysgu plant ysgol am gynhyrchu llaeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig i blant wybod o ble mae llaeth yn dod, meddai Undeb Amaethwyr Cymru

Mae is-gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Ceredigion wedi beirniadu cynllunwyr polisi'r diwydiant llaeth yng Nghymru am eu diffyg gwybodaeth am y sector.

Mewn digwyddiad i ddathlu Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd, fe ddywedodd Gareth Lloyd bod "mwy o synnwyr gyda'r plant na rhai o'r bobl sy'n creu'r polisïau".

Yn ôl Mr Lloyd, mae'n amser i gael cyfarfodydd gyda'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau, gan fod yna faterion "uwchben" lefel y ffermwyr sydd angen eu trafod.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw ymrwymiad i "sector amaethyddol a chadwyn fwyd cynaliadwy, llewyrchus a llwyddiannus".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gareth Lloyd bod "mwy o synnwyr gyda'r plant na rhai o'r bobl sy'n creu'r polisïau"

Dywedodd Mr Lloyd: "Mae'n bwysig iawn cymryd mantais a hyrwyddo amaeth yn gyffredinol, a hefyd yr holl fanteision sydd o yfed llaeth.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n ceisio gwneud hynny bob diwrnod o'r flwyddyn, ond pan mae yna ddiwrnod penodol fel hyn heddiw, mae'n hollol bwysig ein bod ni'n cymryd mantais a rhannu'r wybodaeth."

I wneud hynny mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn ymweld ag ysgolion cynradd ledled y wlad.

Yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion, roedd Elliw Dafydd o fferm Gwarffynnon yn cynnal sesiwn ar gynhyrchu llaeth gyda'r plant

"Dwi 'di dod yma heddiw i addysgu, gweld beth mae plant yn gwybod am laeth, ond hefyd addysgu ymhellach iddyn nhw gael gwybod o ble yn union mae llaeth yn dod, faint o amser mae ffarmwr yn rhoi fewn i gynhyrchu'r cynnyrch gorau," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfleodd i ledaenu'r neges am laeth Cymru yn hollbwysig, meddai Elliw Dafydd

Gyda chynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth, mae'n dweud bod cyfleoedd fel hyn i ledaenu'r neges yn hollbwysig.

"Mae gymaint o ffeithiau gwahanol yn cael eu taflu ar hyd y lle, felly mae'n bwysig iawn i fi ddweud wrth bawb am ein llaeth penodol ni hefyd, achos mae hynny yn adlewyrchu ffermydd ar hyd Cymru.

"Yn aml iawn mae ffeithiau am y byd yn cymylu'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru, ond ma' ansawdd y llaeth sydd gyda ni yng Nghymru a'r buddion i blant a phobl ifanc a phawb yn anhygoel."

'Dwi 'di dysgu lot'

Wrth flasu llaeth fferm Gwarffynnon, dywedodd Ifan, disgybl blwyddyn 6 yn Ysgol Bro Pedr, mai dyma oedd llaeth "neisiaf y byd."

"Os wyt ti'n gofyn i mam neu dad, fyddan nhw'n dweud bo fi'n caru llaeth," meddai.

"Dwi 'di dysgu lot, fel o ble mae llaeth yn dod a pa machines maen nhw'n useio," ychwanegodd Tia, disgybl arall.

Yn dod o gefndir ffermio, dywedodd Harri ei bod hi'n bwysig bod ei gyd-ddisgyblion yn deall y broses o gynhyrchu llaeth.

"Os chi ddim yn byw ar fferm, dy'ch chi ddim yn deall dim am fel ry'ch chi'n cael y llaeth," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd disgyblion Ysgol Bro Pedr eu bod "wedi dysgu lot" am o ble mae llaeth yn dod

Wrth drafod pwysigrwydd y diwydiant llaeth i economi Cymru, dywedodd Mr Lloyd: "Ry'n ni'n siarad am laeth fel cynnyrch craidd ond mae'n rhaid i ni gofio am bopeth mae llaeth yn mynd ymlaen i gynhyrchu - caws, iogwrt, ysgytlaeth ac yn y blaen."

Gyda chynaladwyedd yn flaenoriaeth i lunwyr polisi, mae Mr Lloyd am bwysleisio bod y sector laeth yn rhan o'r ateb.

"Yn anffodus, dwi'n credu bod mwy o synnwyr gyda'r plant yma na rhai o'r bobl sy'n creu'r polisïau," meddai.

"Beth sydd angen yw cael cyfarfodydd gyda'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau, achos mae'n rhwydd iawn i ddweud bod angen i ni dorri lawr ar ein hôl carbon ac yn y blaen, ond wedyn ar yr un pryd, does dim problem yn symud cynnyrch o wledydd eraill mewn ac allan.

"Ry'n ni'n cynhyrchu cynnyrch o'r radd orau yn ein gwlad ni ein hunain. Os fydden ni'n gallu gwerthu mwy o hwnnw adref, bydde dim angen i ni werthu fe dramor a fydde ddim angen i ni ddod â bwyd o dramor mewn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi ymrwymo i sector amaethyddol a chadwyn fwyd cynaliadwy, llewyrchus a llwyddiannus.

"Rydym ni wedi cyhoeddi Bil Amaethyddiaeth gyntaf Cymru sy'n cydnabod yr amcanion o gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaladwy ar y cyd â chymryd camau i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a byd natur, gan gyfrannu at ffyniant cymunedau gwledig a chadw ffermwyr ar y tir.

"Ry'n ni'n cefnogi'r diwydiant bwyd mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys buddsoddiad mewn adnoddau fel datblygiad Cynnyrch Llaeth Mona ar Ynys Môn, sy'n cefnogi ffermwyr llaeth lleol ac yn hybu safonau cynaladwyedd uchel."