'Dim ond ffermydd sy'n gwarchod natur ddylai gael grant'

  • Cyhoeddwyd
Defaid

Mae Cymru yn bwrw ati â diwygiadau pellgyrhaeddol i amaethyddiaeth fydd yn talu ffermwyr am warchod natur a brwydro newid hinsawdd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ei Bil Amaeth yn nodi moment "hanesyddol".

Cytunodd arweinwyr y diwydiant y byddai'r ddeddfwriaeth newydd yn "diffinio ffermio yng Nghymru am genhedlaeth i ddod".

Ond daw wrth i Lywodraeth San Steffan daflu amheuaeth dros gynlluniau tebyg yn Lloegr.

Gwobrwyo gwaith amgylcheddol

Mae'r Bil Amaeth cynta' erioed i Gymru wedi bod yn cael ei ddatblygu ers pleidlais Brexit yn 2016, a hynny'n dilyn degawdau pan oedd penderfyniadau dros bolisi ffermio a chymhorthdaliadau yn cael eu gyrru gan yr UE.

Cafodd ei osod ger bron y Senedd ddydd Llun wrth ddechrau ei daith tuag at ddod yn ddeddfwriaeth.

Mae'r bil yn sefydlu'r gallu i weinidogion Cymreig sefydlu a gweithredu system cymhorthdaliadau newydd sbon i ffermwyr - gyda ffocws llawer gwyrddach.

Mae ffermydd yng Nghymru'n rhannu cyfanswm o dros £300m yn flynyddol mewn cyllid cyhoeddus ar hyn o bryd, gyda'r rhan helaeth o hwnnw'n cael ei dalu ar sail faint o dir sydd dan eu gofal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mesur gan y Gweinidog Lesley Griffiths hefyd yn cynnwys gwaharddiad ar ddefnyddio maglau a thrapiau glud

Ond yn y dyfodol, fe fyddan nhw'n cael eu gwobrwyo am waith amgylcheddol megis plannu coed, adfer mawndiroedd a chynefinoedd bywyd gwyllt, yn ogystal â mabwysiadu dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd.

Mae'r bil hefyd yn sefydlu'r fframwaith ar gyfer monitro ac asesu cyrhaeddiad - gyda gofyn ar i weinidogion osod targedau, ac adrodd i'r Senedd yn gyson o ran cyrhaeddiad.

Am y tro cyntaf yn y DU, mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn cynnwys cyflwyno gwaharddiad llwyr ar ddefnydd maglau a thrapiau glud, a gafodd eu disgrifio gan y gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths fel dyfeisiadau nad oedd "yn gydnaws â'r safonau lles anifeiliaid uchel yr ydym yn ymdrechu drostynt yma yng Nghymru".

Ychwanegodd bod y "bil Amaeth Cymreig hanesyddol" yn amlinellu "sut y gallwn gadw ffermwyr ar y tir, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd".

"Rwy'n hynod falch o'n ffermwyr a'r sector amaeth yma yng Nghymru," meddai.

"Drwy'r darpariaethau yn y Bil, rwyf am sicrhau y gallwn barhau i gefnogi ac annog ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr i greu a chynnal sector amaethyddol ffyniannus."

Cefnogaeth yng nghefn gwlad?

Yn y cyfamser yn Lloegr - a oedd ar y blaen o ran cyflwyno system newydd o gymhorthdaliadau gwyrddach - mae'r newyddion bod y llywodraeth newydd yn adolygu'r ddarpariaeth wedi arwain at feirniadaeth chwyrn gan gyrff amgylcheddol a rhai amaethwyr, er i undeb yr NFU alw am oedi.

Disgrifiodd Aled Jones, llywydd NFU Cymru, y bil amaeth Cymreig fel yr un y mwyaf arwyddocaol i'r diwydiant ers Deddf Amaeth 1947, a basiwyd gan Senedd San Steffan wedi'r Ail Ryfel Byd i roi hwb i'r gwaith o gynhyrchu bwyd.

"Mae'n dod ar adeg allweddol i gymdeithas gydag effaith y rhyfel arswydus yn Wcráin yn rhoi ffocws ar ba mor fregus a phwysig yw sicrhau cyflenwad diogel o fwyd fforddiadwy," meddai.

"Dyna pam bod yn rhaid i'r bil yma, fel prif nod, atgyfnerthu'r gwaith o gynhyrchu cyflenwad o fwyd diogel, fforddiadwy o ansawdd uchel yng Nghymru."

Disgrifiad,

Rhian Brewster, WWF Cymru: "Ry'n ni am weld ffermwyr sy'n mabwysiadu arferion cyfeillgar i'r hinsawdd a natur yn cael eu gwobrwyo"

Dywedodd elusen bywyd gwyllt WWF Cymru bod arolwg ar eu rhan wedi awgrymu bod pobl yng nghefn gwlad Cymru yn gefnogol o'r syniad o newid cymhorthdaliadau amaeth er lles natur.

Yn ôl arolwg barn o 1,000 o drigolion, roedd 60% o'r farn mai ond ffermydd sy'n gwarchod bywyd gwyllt ddylai elwa o grantiau yn y dyfodol.

Roedd 96% yn cytuno bod gan ffermwyr Cymru rôl bwysig i'w chwarae wrth warchod natur, tra bod 88% yn credu eu bod yn bwysig ar gyfer taclo newid hinsawdd.

Ond dim ond traean (34%) oedd yn credu bod ffermydd yn gwneud digon yn barod.

'Angen newidiadau uchelgeisiol'

Mae ffermydd Cymru'n rhannu cyfanswm o dros £300m mewn cymorthdaliadau yn flynyddol ar hyn o bryd, gyda'r rhan helaeth o hwnnw'n cael ei ddosbarthu ar sail faint o dir sy' dan eu gofal.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweld ffermwyr yn ganolog i'w chynlluniau ar gyfer helpu taclo newid hinsawdd a'r colledion ym myd natur, o gofio eu bod yn rheoli dros 80% o dirwedd y wlad.

Ond mae'r newidiadau arfaethedig ymysg y mwyaf pellgyrhaeddol i'r diwydiant mewn cenhedlaeth ac wedi arwain at lot o drafod a dadlau - yn enwedig o ystyried pwysigrwydd amaeth i economi a diwylliant cefn gwlad.

Wrth wraidd y fframwaith mae pedwar amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy:

  • cynhyrchu bwydydd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy;

  • lliniaru'r newid hinsawdd ac addasu iddo;

  • cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a gwarchod;

  • gwella cefn gwlad a diwylliant Cymru, cynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso'r defnydd ohoni.

Dywedodd Rhian Brewster, pennaeth cyfathrebu WWF Cymru bod canlyniadau'r arolwg a wnaethon nhw yn dod "yn ystod moment allweddol i Gymru" ac yn cynnig cipolwg o'r farn mewn cymunedau gwledig.

"Mae'r Bil Amaeth yn rhoi cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ni osod Cymru ar lwybr tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy," meddai.

"Ry'n ni - ynghyd â'r mwyafrif o Gymru wledig - yn awyddus i weld ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am fabwysiadu arferion adfywiol sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd a natur.

"Gall y trawsnewidiad hollbwysig yma ond ddigwydd gyda newidiadau uchelgeisiol i daliadau amaethyddol."