Gorchymyn pennaeth elusen yn Wrecsam i dalu dros £100,000

  • Cyhoeddwyd
Draig
Disgrifiad o’r llun,

Yr ymddiredolwr Simon Wingett sydd hefyd yn gyfrifol am brosiect cerflun y ddraig yn Y Waun

Mae pennaeth elusen canser a wariodd swm sylweddol o arian ar godi cerflun mawr o ddraig Gymreig wedi cael gorchymyn i dalu dros £100,000 i achosion lleol.

Roedd gan The Frank Wingett Cancer Relief Fund siop yn Ysbyty Maelor Wrecsam tan fis Mawrth 2018 ond doedd y siop ddim wedi gwneud cyfraniad elusennol ers 2011.

Yn hytrach fe ddangosodd cyfrifon yr ymddiriedolwr, Simon Wingett, ei fod wedi buddsoddi £410,000 o enillion yr elusen yn ystod yr un cyfnod mewn prosiect i godi cerflun o ddraig 210 troedfedd ger yr A5 yn Y Waun.

Simon Wingett sydd hefyd yn gyfrifol am y cynlluniau i godi cerflun efydd 77 troedfedd o ddraig ar ben tŵr llechen 147 troedfedd, ynghyd â chanolfan ddiwylliannol ger yr A5 yn Y Waun

Roedd Mr Wingett wedi dadlau y byddai'r ddraig enfawr, a gafodd ganiatâd cynllunio, yn atyniad twristaidd tebyg i gerflun Angel y Gogledd ond dyw'r ddraig dal heb ei chodi ar yr hen safle glofaol.

Cafodd yr elusen ei sefydlu gan ei dad, Frank Wingett, i brynu offer ac adnoddau i gleifion canser yn ardal Wrecsam, wedi iddo ddioddef canser y gwddw yn yr 1980au.

Cafodd y taliad diwethaf o £4,500 ei wneud yn 2011 i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Camddefnyddio'r arian

Wedi ymchwiliad gan y Comisiwn Elusennau, a gychwynnodd yn 2017, fe gafodd Mr Wingett ei wahardd rhag bod yn ymddiriedolwr o unrhyw elusen am 10 mlynedd.

Mae e bellach wedi cael gorchymyn gan yr Uchel Lys i wneud taliad o dros £117,000 - arian a fydd yn cael ei rannu rhwng elusennau canser lleol yn Wrecsam.

Ysbyty Maelor Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan The Frank Wingett Cancer Relief Fund siop yn Ysbyty Maelor Wrecsam tan fis Mawrth 2018

Ddydd Iau dywedodd rheolydd yr elusen "nad oedd gan y cerflun o'r ddraig unrhyw gysylltiad â hybu amcanion yr elusen ac nad oedd y cerflun wedi'i godi hyd yma".

Dywedodd Tracy Howarth, cyfarwyddwr cynorthwyol y comisiwn: "Mae ymddiredolwyr elusennau yn cyflawni swyddi pwysig sy'n galw am ymddiriedaeth.

"Ry'n ni - a'r cyhoedd - yn disgwyl i ymddiriedolwyr sicrhau bod penderfyniadau ariannol yn cael eu gwneud er budd yr elusen a'r rhai sydd i fod i elwa ohoni.

"Roedd nifer o'r rhai a roddodd arian i'r elusen wedi ymddiried yn Mr Wingett ond fe gamddefnyddiodd yr arian.

"Mae penderfyniad y llys yn golygu y bydd yr arian a godwyd yn cael ei roi i'r gymuned er budd y sawl yr oedd yr arian ar eu cyfer."