Yr her o fagu plentyn yn ddwyieithog yn Llundain

  • Cyhoeddwyd
Steffan a JoseffFfynhonnell y llun, Steffan Powell
Disgrifiad o’r llun,

Steffan a Joseff

Pan benderfynodd y cyflwynydd Steffan Powell droi at Twitter am gyngor ynglŷn a sut i fynd ati i fagu ei fab Joseff yn ddwyieithog yn Llundain, cafodd ymateb brwd gyda nifer yn rhannu cyngor a phrofiadau.

Ac mi wnaeth un darn o gyngor arwain at newid yn y ffordd oedd Steffan a'i wraig Emma wedi penderfynu mynd ati, fel mae'n sôn wrth Cymru Fyw: "Mae profiadau pobl wedi bod yn rili ddiddorol - y bwriad nawr ar ôl gweld negeseuon pobl yw bod fi dim ond yn siarad Cymraeg gyda Joseff a bod Emma yn siarad Saesneg gyda fe achos yn wreiddiol o'n i'n mynd i neud bach o'r ddau.

"Dwi wedi newid nawr ar ôl gweld negeseuon pobl. Y cyngor ni wedi cael yw bod hynny'n gallu cymysgu pethau. Os dwi dim ond yn neud Cymraeg a bod Emma yn neud Saesneg bydd e'n deall bod 'na ddwy iaith yn gynnar."

Mae Steffan wedi byw yn Llundain ers 2014, lle mae'n gweithio i'r BBC fel gohebydd gemau ac wedi cyflwyno rhaglenni fel Newsbeat, ond yn ddiweddar mae wedi bod ar gyfnod tadolaeth gyda'i fab saith mis.

Meddai: "Mae'n rili bwysig i fi ac Emma a'r teulu ar y ddwy ochr bod e'n tyfu fyny yn ddwyieithog. Felly ni moyn neud yn siŵr bod ni'n neud e'n gywir o'r cychwyn cyntaf.

"O profiad fi mae'n neud mwy o sens - mae plant yn dysgu pethau mor hawdd, os ti'n cael iaith yn dy ben di pan ti'n ifanc bydd digon 'da ti ble bynnag ni'n peni lan yn byw."

Mae ei wraig Emma'n dod o Essex yn wreiddiol ond wedi dysgu Cymraeg ac yn deall dipyn o'r iaith ers ei dyddiau yn y brifysgol yng Nghaerdydd, ble wnaeth hi gyfarfod Steffan.

Disgrifiad o’r llun,

Joseff, Steffan ac Emma

Cymreictod

Felly mae magwraeth ddwyieithog yn bwysig i'r ddau, fel mae Steffan yn esbonio: "Iaith gyntaf fi yw'r Gymraeg, 'nes i ddim siarad Saesneg nes bod fi tua pump - dwi'n cofio'r gair cyntaf Saesneg nes i ddysgu oedd gun achos 'oedd ffilm Western John Wayne ar y teledu a dwi'n cofio gofyn i tadcu fi beth yw dryll yn Saesneg.

"Mae Cymraeg yn hollol naturiol i fi - mae pawb adre' yn siarad Cymraeg, mae ffrindie 'da fi yn Llundain a adre' yn siarad Cymraeg.

"Y peth da yw'r cyfryngau Cymraeg - bod ti'n gallu darllen pethe Cymraeg, darllen Cymru Fyw, gwylio Hansh - so mae input media fi dal yn ddwyieithog er bod fi yn byw yn Llundain.

"Ni'n boddi Joseff mewn rhaglenni teledu a chaneuon Cymraeg. Mae algorithm Spotify fi dros y siop nawr gyda Gee Ceffyl Bach yn popio lan.

"Pob cyfle dwi'n cael dwi'n siarad Cymraeg on air - pan o'n i'n gweithio ar Radio One 'da Huw Stephens yn yr un cyfnod bydden i'n siarad bach o Gymraeg on air gyda fe - dwi wastad wedi neud ymdrech i gadw'r Cymraeg a dwi byth yn mynd i stopio siarad er bod fi wedi symud bant."

Ers rhoi neges ar Twitter yn gofyn am gyngor, mae pobl wedi rhoi manylion grwpiau lleol cyfrwng Cymraeg yn Llundain i Steffan, gan gynnwys grŵp o'r enw Dreigiau Bach yn Clapham.

Meddai Steffan: "Mae'n neis bod y pwysedd i gyd ddim arnaf i - mae 'na lefydd eraill ni'n gallu mynd ac ni'n edrych mlaen i fynd i rai o'r grwpiau Cymraeg.

"Dwi'n mynd i Glwb Cymry Llundain i weld gêm rygbi ac mae fel bod yng nghanol Cymru. Mae Joseff 'di clywed lot o Gymraeg tu hwnt i'r tŷ er bod ni'n byw mewn gwlad di Gymraeg."

Amlieithrwydd

"Fi wastad wedi teimlo'n hyderus bod e'n bosib (i fagu Joseff yn ddwyieithog) - dwi wedi cyfarfod pobl sy' 'di neud e ond mae cael tips mwy ymarferol wedi bod yn help mawr. Mae theori yn un peth ond mae actually neud e yn fwy caled.

"'Oedd pobl eraill yn dweud ddim i fod yn shei. Ti'n clywed pob math o ieithoedd yn Llundain - ti'n mynd ar y bws i Brixton ar gyfer gwaith ac mae pob math o ieithoedd yn cael eu siarad - dyle Cymraeg ddim fod yn wahanol.

Cymuned

"Mae cychwyn yn rhwydd - dwi'n credu bydd e'n galed i gadw fynd a dal ati. Mae plant yn neud lot o stwff ar youtube a'r cyfryngau cymdeithasol le mae Saesneg yn dominyddu ond mae'r her o ddod dros hynny yr un peth a'r her petai Joseff wedi cael ei eni yng Nghymru - mae rhai o'r sialensau yn wahanol ond mae rhai o'r sialensau yn debyg.

"Mae hynny'n eitha' canologol. Be' sy' wedi bod yn galonogol hefyd yw dwi ddim wedi cael unrhyw un yn dweud, 'pam ti'n bothran neud hynny? O na wastraff amser!'

"Mwy o ganu Hen Fenyw Fach Cydweli fydd hi...mae pobl yn edrych arna'i ar y bws 118 o Brixton i Streatham pan dwi'n canu Hen Gafr Eto - dwi'n cael cwpl o looks bach ond mae fe'n neis, ti'n clywed pob iaith yn Llundain so mae'n neis bod bach o Gymraeg ar y 118."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig