Ydy'r we yn fwy diogel ddegawd wedi marwolaeth April Jones?

  • Cyhoeddwyd
April JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae achos trasig April wedi gwneud gwahaniaeth wrth ddiogelu plant heddiw, medd yr Internet Watch Foundation

Mae miliynau o ddelweddau anweddus o blant wedi eu dileu oddi ar y we ar ôl i ymchwilwyr sifil dderbyn pwerau ychwanegol yn dilyn llofruddiaeth April Jones.

Fe gafodd April, merch bump oed o Fachynlleth, ei chipio a'i llofruddio 10 mlynedd yn ôl gan Mark Bridger.

Dangosodd yr ymchwiliad fod gan Bridger gyfres o luniau o blant yn cael eu cam-drin ar ei gyfrifiadur.

Yn dilyn yr achos fe dderbyniodd ymchwilwyr yr Internet Watch Foundation bwerau ychwanegol i ymchwilio i droseddwyr o'r fath ar gais y prif weinidog ar y pryd, David Cameron.

Ond mae 'na bryder, ddegawd ers marwolaeth April, fod nifer y delweddau anweddus o blant ar-lein yn "argyfwng cenedlaethol", gyda thystiolaeth yn awgrymu bod nifer o blant yn cael eu darbwyllo i anfon lluniau o'u hunain.

Llofruddiaeth April 'wedi deffro' arweinwyr

Fe ddiflannodd April Jones ar 1 Hydref 2012 ger ei chartref ym Machynlleth, gan arwain at yr ymchwiliad mwyaf yn hanes yr heddlu ym Mhrydain.

Dydy gweddillion corff April erioed wedi eu darganfod.

Fe gafodd ei chipio gan Mark Bridger, pedoffeil a dderbyniodd ddedfryd oes o garchar am ei llofruddio. Does dim modd iddo gael ei ryddhau o'r carchar.

Wrth i swyddogion ymchwilio, fe ddarganfuwyd cyfres o luniau o blant yn cael eu cam-drin, gyda thystiolaeth fod Bridger wedi chwilio ar-lein am ddelweddau o ferched ifanc noeth.

Roedd ganddo hefyd luniau o April Jones a'i chwaer yn ei feddiant.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni April wedi ymgyrchu ers ei marwolaeth i gael deddfau llymach i ddiogelu plant rhag troseddwyr rhyw

Yn ôl Susie Hargreaves o'r Internet Watch Foundation (IWF), roedd llofruddiaeth April Jones "wedi deffro" arweinwyr y maes i wneud mwy.

Aeth ymlaen i ganmol gwaith diflino teulu April am y gwaith maen nhw wedi'i gyflawni i "sicrhau na fyddai trosedd o'r fath yn digwydd eto".

O 13,000 i 252,00 o wefannau

Mae tua 50 o ymchwilwyr arbenigol yn gweithio i'r IWF yn darganfod delweddau anweddus ac yn dilyn yr ôl troed digidol er mwyn dod o hyd i darddiad y lluniau, a hynny yn dilyn pwerau ychwanegol gan Wasanaeth Erlyn y Goron a lluoedd yr heddlu.

"Y flwyddyn bu farw April Jones fe gafodd 13,000 o wefannau anweddus eu dileu oddi ar y we - y llynedd roedd hynny wedi cynyddu i 252,000," meddai Ms Hargreaves.

"Mae gan bob un o'r gwefannau hyn filoedd o luniau a delweddau anweddus, felly rydyn ni'n dileu miliynau o luniau o blant ifanc yn cael eu cam-drin."

Mae'r IWF yn un o'r unig sefydliadau drwy Brydain, tu hwnt i sefydliadau troseddol, sydd â'r grym i chwilio am ddelweddau o'r fath heb gael eu herlyn am wneud, a hynny er mwyn diogelu plant.

Ffynhonnell y llun, IWF
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Susie Hargreaves o'r IWF, roedd llofruddiaeth April Jones "wedi deffro" arweinwyr y maes i wneud mwy

Yn ôl Ms Hargreaves mae cam-drin plant ar-lein wedi cynyddu i'w lefel uchaf erioed, ac yn ôl cyn-Uwch Swyddog gyda Heddlu'r Met sy'n arbenigo yn y maes, mae angen i lywodraethau, cwmnïau'r we a'r gyfundrefn addysg ymateb yn gynt ac yn well.

"10 mlynedd ers hyn, a 'dan ni'n dal yn siarad amdano," meddai Dai Davies, fu hefyd yn rhan o ymchwiliad preifat i achos adnabyddus arall - sef diflaniad Madeleine McCann.

"Mae o dros y byd, yn y wlad yma ac yn Ewrop ac mae angen stopio hyn.

"Mae'r peth ar scale beyond, a dwi'm yn gweld bod y gyfraith... wel 'sa chi'n gweld faint o bobl sy'n investigatio mi fasa chi'n siomedig iawn fel ydw i."

'Epidemig'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dai Davies eisiau gweld addysg ar-lein yn cael ei flaenoriaethu

Mae deddf wrthi'n gwneud ei ffordd drwy Dŷ'r Cyffredin er mwyn gwella diogelwch ar-lein, a'r ddeddf honno yn gosod rheidrwydd ar gwmnïau mawr y byd technoleg i ddiogelu defnyddwyr rhag delweddau o gam-drin plant.

Ond yn ôl Mr Davies mae angen gwneud mwy.

"Mae pawb yn deud sori, ond dwi'm yn gweld digon o action i daclo hyn gan y cwmnïau."

Mae hefyd am weld addysg ar-lein yn cael ei flaenoriaethu.

"Dwi ddim yn meddwl ei bod ni'n gwneud digon i warnio. Average age yr exploitation yma ydy tua 12-18, felly mae'n bwysig iawn. Ma' hyn angen bod yn rhan mwy o'r cwricwlwm yn fy marn i, a dwi'm yn gweld o."

"Mae hyn fel epidemig," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Mark Bridger gyfres o luniau o blant yn cael eu cam-drin

Yn ôl sefydliad yr IWF, roedd wyth miliwn o geisiadau ar-lein er mwyn cael mynediad at ddelweddau o blant yn cael eu cam-drin yn ystod tair wythnos gynta'r cyfnod clo.

Yn ôl swyddogion, mae'r modd mae'r delweddau yn ymddangos hefyd yn newid, gyda phlant ifanc yn cael eu "darbwyllo, eu hannog a'u cam-drin" i yrru delweddau anweddus o'u hunain.

"Mae hyn yn argyfwng cenedlaethol," medd y sefydliad.

Google yn ymrwymo i ddiogelu plant

Mae cwmnïau mawr fel Google a Microsoft eisoes wedi rhwystro miloedd o dermau y mae pedoffiliaid yn eu defnyddio ar-lein i chwilio am gynnwys tebyg, gyda chydweithio yn digwydd ar draws y sector.

Mewn datganiad fe ddywedodd Google eu bod wedi ymrwymo'n fawr at "ddiogelu plant a defnyddwyr o gynnwys niweidiol".

"Rydym yn gweithredu'n rymus er mwyn mynd i'r afael â cham-drin plant, delweddau anweddus ac unrhyw ymgais i ledaenu deunydd o'r fath," meddai.

Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi "buddsoddi mewn technoleg arbenigol er mwyn dileu ac adrodd cynnwys niweidiol ac yn gweithio gydag arbenigwr fel yr IWM ac NCMEC er mwyn diogelu plant".

Yn ôl elusen yr NSPCC bydd y ddeddf sy'n gwneud ei ffordd trwy Dŷ'r Cyffredin yn rhoi "diogelwch systematig i blant ar-lein" gan ddweud ei fod yn gyfle i greu deddf fydd yn diogelu plant am "genedlaethau i ddod".