Teyrnged i 'fab, tad, brawd ac ewythr cariadus'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot ddydd Mawrth wedi rhoi teyrnged i "fab, tad, brawd ac ewythr cariadus".
Bu farw Ian Christopher Seaborne, 62 oed o Dreforys, Abertawe, mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A4241, Ffordd yr Harbwr.
Roedd yn gyrru Ford Fiesta, a bu farw yn y fan a'r lle, tra bod gyrrwr Skoda Octavia wedi'i gludo i'r ysbyty â mân anafiadau.
"Roedd yn fab, tad, brawd ac ewythr cariadus, ac roedd ei wên a'i goegni wastad yn llenwi'r ystafell â llawenydd a chwerthin," meddai ei deulu mewn datganiad.
"Bydd yn cael ei golli'n fawr a'i garu am byth."
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw dystion i'r digwyddiad i gysylltu â'r llu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2022