'Cartrefu mam a mab o Wcráin wedi cyfoethogi'n bywyd'
- Cyhoeddwyd
"O'n i jest yn teimlo y galle hynny fod yn fi a 'mhlant i, yn sefyll ar ffin gwlad estron heb ddim, yn chwilio am rywle saff i fyw."
Mae'r newyddiadurwr a chyflwynydd Wales Today a Dros Ginio, Jennifer Jones yn disgrifio'i theimladau o weld lluniau ar y teledu o ferched a'u plant yn ffoi o Wcráin wedi i Rwsia ddechrau ymosod ar y wlad ym mis Chwefror.
"Oeddan ni fel pawb arall yn gwylio'r adroddiadau newyddion a jest yn teimlo nad oedd unrhyw beth oeddan ni'n medru neud i helpu, dim ond falle rhoi 'chydig o arian i elusenna' fydda'n helpu ffoaduriaid.
"A 'dw i, fel sawl un arall sydd yn gweithio llawn amser ac yn [brysur] efo'r plant, wastad wedi teimlo nad oes gen i amser i wirfoddoli neu i helpu efo elusenna' gwahanol.
"Ond fel mae'n digwydd, 'dan ni'n ffodus iawn o ran ein tŷ ni - mae gynnon ni le yn ein cartre' lle galle' rhywun fyw yn gymharol annibynnol ac efo lefel o breifatrwydd. Felly oeddan ni yn teimlo 'wel, dyma un peth fedran ni neud i helpu'."
Fe gafodd Jennifer a'i gŵr Gwion sgwrs gyda'u plant am y posibilrwydd o gynnig llety i deulu o'r wlad.
Roedd y plant, meddai wrth raglen Bwrw Golwg, "yn hynod gefnogol... o'r cychwyn" ac felly fe gysylltodd â chynllun cartrefu ffoaduriaid Wcrainaidd Llywodraeth y DU.
Ac ers pedwar mis bellach mae'r teulu wedi rhannu eu cartref yng Nghaerdydd gyda Yuliia a'i mab Danyil.
Roedd Yuliia'n awyddus i fyw yn y ddinas am eu bod â ffrindiau yno yn barod.
Un o'r ffrindiau hynny oedd "rhyw ddyn o'r enw Mike oedd o Wlad Pwyl ond yn byw yn Grangetown ac wedi bod yn Wcráin ac yn 'nabod pobl o'r wlad honno".
'Be ydw i'n neud?'
Pan ffoniodd Mike, roedd yn digwydd bod ym mhrifddinas Latfia, Riga.
Dywedodd Jennifer: "Oedd 'na ran ohona' i'n meddwl 'Be ydw i'n neud yn fan hyn? Ma' hyn yn hollol wallgo' Dwi'm yn 'nabod y person yma, dwi'm yn 'nabod y ddynes yma na'i mab'.
"Ond ma' rhaid i rywun gym'yd rhyw fath o leap of faith. Ma' 'na risg... wrth gwrs, ma' 'na checks a ma' 'na gama' cyfreithiol sydd yn digwydd cyn bo nhw'n dod.
"Unwaith ddaethon ni i gysylltiad â Yuliia a cha'l ei manylion hi, mi nes i a Gwion wedyn lenwi'r ffurflenni fisa."
Er y trafferthion y mae rhai wedi eu hwynebu, fe gyrhaeddodd y fisas "o fewn pythefnos, felly o'n profiad ni mi ro'dd y broses honno yn gymharol rhwydd".
"Oedd y profiad o bigo nhw fyny o'r maes awyr yn un emosiynol iawn a mi o'n i'n bryderus iawn. 'Beth os 'dan ni'n deud y peth anghywir? Neu os 'dan ni'n ypsetio nhw mewn rhyw ffordd drwy ofyn gormod o gwestiyna?'
"Felly mi 'nath i gym'yd amser i ni ddod i 'nabod nhw ac i ada'l iddyn nhw rannu profiada' efo ni."
Daeth i wybod maes o law bod y profiadau hynny'n cynnwys cuddio mewn islawr am dair wythnos cyn ffoi o'u pentref ac yna'r wlad.
Angladdau 'yn ddyddiol' 'nôl adref
"Y cyngor o'ddan ni 'di ga'l oedd 'peidiwch â gofyn gormod ar y dechra' ac wrth gwrs ma'r trawma'n parhau unwaith iddyn nhw gyrraedd Cymru.
"Ma' nhw'n gwylio'r newyddion trwy'r amser, ma'n nhw'n siarad efo ffrindia' a theulu adra'. Ma' nhw'n nabod pobl sydd wedi ca'l eu lladd yn yr ymladd. Fel ma' Yuliia'n deud, yn ei phentre' hi ma' 'na angladda' yn ddyddiol.
"Felly 'dan ni'n ffrindia', 'dan ni'n ystyried nhw erbyn hyn fel ail deulu, ond ma' nhw'n fregus a ma' nhw'n dal yn delio efo'r trawma hyn sydd yn digwydd adre.
"Mae o'n brofiad diddorol - mae 'di cyfoethogi'n bywyd ni i gyd fel teulu, ond ma' nhw angen tipyn o gefnogaeth ac mi fydd hynny'n parhau."
"Mae gweld y ddau nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu, er gwaetha'u sefyllfa, yn ysbrydoliaeth.
"Mae'n anodd amgyffred pa mor anodd ydy gadael popeth sy'n gyfarwydd i chi a dechrau bywyd newydd mewn gwlad estron ond hyd yn hyn mae nhw'n llwyddo.
"Ac maen nhw mor ddiolchgar i bawb sydd wedi eu cefnogi nhw ers iddyn nhw gyrraedd.
"Mae ffrindiau, teulu, cymdogion a chydweithwyr wedi bod mor garedig tuag atyn nhw ac mae hynny'n destun balchder i ni hefyd."
Mae Jennifer yn falch bod y trefniant wedi gweithio cystal, gan wybod "am deuluoedd lle mae'r noddwyr a'r teulu o Wcráin falle ddim yn dod ymlaen, neu ma' 'na broblema' ieithyddol.
Mae gan Yuliia, meddai, "bersonoliaeth hoffus iawn" ac mae'n siarad Saesneg "safonol iawn". Roedd hi wedi darllen am Gymru cyn cyrraedd ac mae hi a Danyil, sy'n setlo'n dda yn yr ysgol, "wedi dysgu ambell i frawddeg yn Gymraeg".
Roedd sawl barbeciw dros yr haf yn gyfle i wahodd ffrindiau i'r tŷ sydd hefyd wedi ffoi o Wcráin, a'u noddwyr "felly 'dan ni 'di dod i nabod dipyn o bobol newydd yng Nghaerdydd hefyd".
Saith mis wedi dechrau'r rhyfel yn Wcráin mae yna bryderon a fydd pobl yn parhau i gynnig llety i ffoaduriaid.
Mae sefyllfa pob teulu'n wahanol, medd Jennifer, mewn ymateb i gwestiwn pa gyngor y byddai'n ei gynnig i unrhyw un sy'n ystyried cynnig cartref.
'Dan ni'n hapus iawn'
"O'n rhan ni y peth pwysig oedd bod ni fel teulu i gyd yn gytûn mai dyma'r peth iawn i neud, ac ein bod wedi trafod be fydda'n digwydd tasa rhywbeth yn mynd o'i le...
"Ma' pob sir yn 'neud [petha'n wahanol] ond yng Nghaerdydd mae 'na dîm yn y cyngor lle fedrwch chi gysylltu â nhw os oes problem neu os 'dach chi angen dod â'r trefniant i ben.
"Galla'r teulu o Wcráin wedyn ga'l eu cartrefu hefo rhywun arall sydd wedi cofrestru efo Homes For Ukraine neu wrth gwrs mynd i fewn i lety brys.
"Fel mae'n digwydd mae'r trefniant i ni fel teulu wedi gweithio - 'dan ni'n hapus iawn efo petha' fel ag y maen nhw.
"Yn amlwg, fedar Yuliia ddim byw efo ni am byth. 'Dan ni'm ym gw'bod pryd fydd hi'n saff iddyn nhw fynd yn ôl i Wcráin, neu a ddaw'r dydd pan ma' nhw'n penderfynu 'reit, 'dan ni mewn sefyllfa lle fedran ni fyw yn annibynnol a rentu rywle yn breifat."
Mae rhannu'r cartref gyda ffoaduriaid, medd Jennifer, wedi gwneud iddi wir werthfawrogi byw mewn gwlad heb ryfel.
"Dwi'n dechra' sylweddoli - heb heddwch a sefydlogrwydd does ganddoch chi ddim."
Mae hi a'i theulu hefyd wedi mwynhau cael blas - ar sawl ystyr - o ddiwylliant eu gwestai. Mae Yuliia'n aml yn coginio ar eu cyfer a "'dan ni'n ffans mawr o borscht erbyn hyn!".
Bwrw Golwg, 12:30 dydd Sul 2 Hydref ac ar BBC Sounds
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022