'Peidiwch â stopio cyfrannu i helpu pobl Wcráin'
- Cyhoeddwyd
Mae elusen o Wrecsam yn galw ar bobl Cymru i barhau i gefnogi plant mewn angen yn Wcráin.
Mewn cartref plant yn Chernivtsi, mae Teams 4U wedi bod yn gweithio ers i Rwsia ymosod ym mis Chwefror.
Teithiodd rhaglen Newyddion S4C gyda chynrychiolwyr yr elusen i dde Wcráin.
Er bod Chernivtsi rhyw 1,000 o filltiroedd o flaen y gad a'r gwrthdaro mawr, mae'r rhyfel yn bwrw cysgod hir yma hefyd.
Cyn 24 Chwefror, 10 plentyn oedd yn derbyn gofal yng nghartref plant Magala. Ond ym mis Mawrth, cafodd 42 o blant yn rhagor eu hanfon yno o ranbarth Donbass wedi i gartref plant yno gael ei ddinistrio.
Nawr, mae'r staff dan bwysau enbyd.
Dyma drydedd daith Simon Cooke i'r cartref plant, sydd, gydag aelodau eraill o Teams4U, eisoes wedi rhannu teganau, bwyd a nwyddau hanfodol eraill gyda'r cartref.
Maen nhw hefyd wedi talu am doiledau newydd sydd yn cael eu gosod ar hyn o bryd.
Wrth siarad â Newyddion S4C yn y cartref, dywedodd Simon Cooke: "I'r rheiny sydd wedi rhoi arian a rhoddion i ni, diolch. Mae yn mynd i'r llefydd iawn.
"Mae'r plant yma yn cael eu bwydo o ganlyniad i roddion gan bobl nôl ga'tref.
"Ond plîs, peidiwch â stopio. Dyw'r rhyfel heb ddod i ben - mae'n parhau."
"Mae'r bobl yma'n dal i gael eu heffeithio. Maen nhw'n methu gadael.
"Mae rhyw 40 ohonyn nhw wedi dod o ardal Donetsk, lle mae brwydro yn digwydd nawr wrth i ni siarad.
"Maen nhw wedi cael eu symud yma, maen nhw'n methu mynd yn bellach. Does dim pasbortau gyda nhw felly maen nhw'n methu gadael y wlad, does dim gallu corfforol ganddyn nhw i ddianc. Maen nhw'n sownd yma."
Gyda Simon ar yr ymweliad yma oedd Ruth Wyn Williams, darlithydd a nyrs anabledd dysgu arbenigol.
Er gwaethaf cefnogaeth Teams 4U, mae hi'n dweud bod angen mwy o gymorth ar y staff a'r plant.
"Mae'r staff yma'n trio'u gorau gyda'r adnoddau sydd ar gael. Ond does dim adnoddau yma, nag oes.
"Wrth sbïo o gwmpas, does dim teganau yma, does dim dillad sydd yn ffitio yn iawn, ac mae isho rhywbeth ar y plant i wneud, on'd oes?"
Yn ôl cyfarwyddwr y cartref, Mykhailo Zaidel, mae ei weithwyr dan y don.
"Mae angen mwy o sylw ar y plant yma. Rydyn ni angen mwy o staff i weithio gyda phob un yn unigol.
"Dyw'r nyrs methu ymdopi. Mae'n gorfod delio â phopeth, ond dim ond yn gallu rheoli glendid, bwydo a'u cadw nhw'n ddiogel."
"Ond ry'n ni angen staff, staff a mwy o staff."
Fe dystiodd Newyddion S4C i'r amodau anodd oedd yn wynebu'r gofalwyr. Mae'r plant i gyd yn edrych yn denau iawn.
Roedd 20 o fechgyn hŷn yn cael eu cadw mewn iard am oriau gyda dim ond un aelod o staff yn eu gwylio nhw. Doedd dim gemau na pheli iddyn nhw chwarae â nhw.
Roedd rhai yn gorwedd yn llonydd ar y llawr o gerrig man tra bo eraill yn crwydro'n ddigyfeiriad.
Tynnodd un bachgen yn ei arddegau hwyr ei drowsus a gwneud dŵr.
Roedd rhai o'r plant yn arddangos ymddygiad heriol, a gyda'r gweithwyr yn methu difyrru'r plant, roedden nhw'n teimlo bod dim dewis ganddyn nhw ond clymu un bachgen i gadair.
Gobaith Ruth Wyn Williams yw y gall hi ac arbenigwyr eraill ddychwelyd nesaf yn yr hydref, a chynnig cyngor arbenigol er mwyn gwella ansawdd bywyd y plant.
Ond mae'n ymwybodol bod yr her o wella bywydau'r plant yma, ac eraill mewn sefyllfa debyg ar hyd a lled y wlad yn enfawr.
"Dydyn ni ddim yn dod hefo wand. Rydyn ni'n methu newid y byd. Eu gwerthoedd nhw sydd yn bwysig. A'n bod ni'n gwneud beth maen nhw am i ni wneud.
"Mae hwn yn un cartref plant mewn un rhan o'r wlad, ac mae nifer fawr ohonyn nhw - a dwi'n dychmygu bydd mwy hefyd cyn hir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2022