Dod o hyd i 'swm sylweddol' o gocên ar draeth ger Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Syndod" wedi i gyffuriau gael eu canfod ar draeth

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliad wedi iddyn nhw ddod o hyd i "swm sylweddol" o'r hyn maen nhw'n credu yw cyffur cocên ar draeth yn Ngheredigion.

Fe ddaeth cerddwyr o hyd i nifer o fagiau du wedi eu clymu ar draeth Tan-y-Bwlch ger Aberystwyth fore Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio i sut y cafodd "maint mor anaferol o uchel" o'r cyffur ei olchi fyny ar yr arfordir yn dilyn "tywydd stormus diweddar".

Mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn dweud ei bod yn ymwybodol o'r digwyddiad, ac "mewn cysylltiad" gyda'r heddlu ynghylch yr ymchwiliad.

Ychwanegodd yr heddlu nad ydyn nhw wedi arestio unrhyw un hyd yma ac nad yw'n glir faint yn union o'r cyffur gafodd ei olchi i'r lan.

Mae'r llu wedi diolch i'r bobl wnaeth ddod o hyd i'r pecynnau am gysylltu â nhw.

'Pawb yn becso'

Dywedodd un sy'n byw yn yr ardal ac yn cerdded ar y traeth yn aml, Eirian Parry, bod "pawb yn becso".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eirian Parry bod y darganfyddiad yn achos pryder

"Chi'n clywed storis yn dy' chi, a ma' pethe'n mynd yn waeth.

"Ond i feddwl bod gymaint â hynny, ma' fe yn becso ti."

Cafodd swyddogion heddlu hefyd eu gweld yn cludo bagiau i ffwrdd ym marina Aberystwyth, sydd dafliad carreg o'r traeth.

Ffynhonnell y llun, Hazel Christopher

Pynciau cysylltiedig