Tro pedol ar ddiddymu'r gyfradd 45c ar dreth incwm
- Cyhoeddwyd
Mewn cyhoeddiad annisgwyl fore Llun, mae'r Canghellor Kwasi Kwarteng wedi cadarnhau na fydd yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i ddiddymu'r gyfradd 45p ar dreth incwm.
Mewn neges ar ei gyfrif Twitter, dywedodd bod y cynlluniau a gafodd eu cyhoeddi yn ei 'gyllideb fechan' 10 diwrnod yn ôl "wedi tynnu sylw o'n amcan pennaf i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein gwlad".
Mae'r tro pedol, ar ddiwrnod llawn cyntaf cynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham, yn groes i'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog Liz Truss mewn cyfweliad â'r BBC ddydd Sul pan fynnodd ei bod yn ymroddi'n llwyr i'r polisi dadleuol.
Roedd nifer o ASau Ceidwadol wedi mynegi gwrthwynebiad iddo, ac fe rybuddiodd y cyn aelod o'r cabinet, Grant Shapps na fyddai'r cynlluniau'n cael digon o gefnogaeth mewn pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "yn falch" fod Llywodraeth y DU wedi gwrthdroi "eu cynlluniau annoeth i roi toriad treth i'r rai cyfoethocaf yng nghanol yr argyfwng costau byw".
Roedd yna feirniadaeth y byddai dileu'r haen uchaf o dreth incwm i bobl sy'n ennill dros £150,000 y flwyddyn yn annheg pan fo aelwydydd yn wynebu gaeaf caled wrth i gostau byw gynyddu.
Roedd Ms Truss yn dadlau ddydd Sul bod angen y pecyn cyfan o fesurau i hybu twf yn y DU ac i symleiddio'r system trethi.
Ond fe blymiodd gwerth y bunt wrth i'r marchnadoedd arian ymateb i gyhoeddiadau mwyaf trawiadol y 'gyllideb fechan'.
Dywedodd David TC Davies, Aelod Seneddol Mynwy, fod ei blaid wedi gwneud y peth iawn drwy wneud tro pedol.
"Rydyn ni wedi gwneud hyn [tro pedol] cwpl o weithiau dros y blynyddoedd a dwi'n meddwl ei fod yn iach - dwi ddim yn meddwl ei fod yn broblem bod y llywodraeth wedi ei newid," meddai Mr Davies ar Radio Wales fore Llun.
"Os na fydden ni wedi gwneud tro pedol, byddech yn dweud wrthyf bod y cyhoedd yn disgwyl i ni wneud tro pedol ar hyn ac yn gofyn pam na wnewch chi.
"Wel yr ateb yw ein bod ni nawr wedi gwneud, felly rwy'n ceisio lladd rhai o'r cwestiynau, rydym wedi gwneud tro pedol a dyna oedd y peth iawn i'w wneud."
'Newyddion da - ond peth ffordd i fynd eto'
Roedd cyhoeddiad dydd Llun yn "newyddion da, cam bach yn y cyfeiriad iawn" ym marn y Cynghorydd Aled Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr ar Gyngor Powys, a oedd wedi bod yng nghynhadledd y blaid ddydd Sul.
"Mi roedd hi yn amlwg ar ôl neud y cyhoeddiad bron i 10 diwrnod nôl rŵan nad oedd yn sylfaenol deg, dyna y gŵyn fwyaf," dywedodd ar raglen Dros Frecwast.
"Pan mae pobl yn ffeindio hi yn anodd iawn i dalu am nwy ac ati, bod nhw yn torri y treth i'r rhai mwyaf cyfoethog yn y wlad.
"Dyw e ddim y peth Ceidwadol i wneud, i dorri trethi a benthyca pres i dorri trethi... mae'n bwysig iawn bod cyllid y wlad yn sownd, ac mae marchnadoedd arian wedi dweud eu dweud."
Pan ofynnwyd a yw'r holl sefyllfa'n destun embaras i'r blaid, atebodd: "Ydi mae e. Does dim dwywaith amdano.
"Mae'r Ceidwadwyr yn gweithio yn galed ar lawr gwlad yn y cynghorau lleol ac ati yn trio 'neud bywydau pobl yn well a delio gyda problemau o ddydd i ddydd a 'di o ddim help o gwbl pan mae cyhoeddiadau fel hyn yn digwydd."
Dywedodd nad yw'n "poeni gymaint" am y posibilrwydd y bydd y blaid yn colli seddi yn etholiadau gogledd Powys oherwydd "mae gen i aelodau seneddol cryf iawn".
"Y peth mwya' pwysig yw dyfodol y wlad," meddai, gan ychwanegu bod "beth oedd y canghellor wedi 'neud yn siomedig iawn, achos roedd y marchnadoedd arian wedi codi interest rates ac felly mae hi yn fwy anodd i fuddsoddi mewn ysgolion newydd ac ati.
"Rwy' yn falch iawn bod e wedi 'neud cam bach yn y cyfeiriad iawn rŵan ond mae bell o ffordd i fynd eto."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn falch bod Llywodraeth y DU wedi ymateb i ein galwadau i wrthdroi eu cynlluniau annoeth i roi toriad treth i'r rai cyfoethocaf yng nghanol yr argyfwng costau byw.
"Mae cyllideb fach y Canghellor wedi bod yn hynod niweidiol ac mae pobl eisoes yn talu'r pris am y twpdra economaidd yma yn nhermau cyfraddau morgais a chostau benthyca uwch."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2022