Annog Mark Drakeford i dynnu sylwadau 'sarhaus' yn ôl am grŵp Covid
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau ar i Brif Weinidog Cymru dynnu'n ôl sylwadau a wnaeth am grŵp o deuluoedd a gollodd anwyliaid i Covid-19.
Ddydd Mawrth, awgrymodd Mark Drakeford fod y teuluoedd wedi symud ymlaen o'u galwadau am ymchwiliad penodol i Gymru.
Dywedodd aelodau o grŵp ymgyrchu Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru fod yr honiad yn "sarhaus" a "ddim yn wir".
Mae llythyr gan Blaid Cymru wedi galw ar arweinydd Llafur Cymru i ail-ystyried y dewis o eiriau "fel arwydd o barch" i'r grŵp.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn ymateb i'r llythyrau maes o law."
'Symud ymlaen'
Mewn dadl yn y Senedd ddydd Mawrth bu'r gwrthbleidiau unwaith eto yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad penodol i Gymru ar y mater - rhywbeth mae Mr Drakeford wastad wedi'i wrthod.
Dywedodd y prif weinidog y bydd "dim ymchwiliad o'r math yna yma yng Nghymru", gan ychwanegu fod "y byd wedi symud ymlaen".
Aeth ymlaen i ddweud wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, o'r cyfarfodydd y mae ef wedi'u cael gyda'r teuluoedd, "eu bod, yn wahanol i arweinydd yr wrthblaid, yn symud ymlaen o barhau i ofyn am rywbeth sydd ddim am ddigwydd".
Yn wyneb beirniadaeth nos Fawrth, dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth Cymru fod Mr Drakeford yn cyfeirio at sylw'r grŵp fod aelodau wedi "newid eu ffocws".
Mae gan Covid Bereaved Families for Justice Cymru tua 500 o aelodau, ac fe wnaeth gynrychiolwyr gwrdd â Mr Drakeford nifer o weithiau yn ystod y pandemig, gan alw dro ar ôl tro am ymchwiliad Cymreig penodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y galwadau hynny ac yn hytrach wedi cefnogi ymchwiliad DU gyfan, gan ddweud y byddai'n rhoi gwell dealltwriaeth o sut y gwnaed penderfyniadau rhwng gwahanol lywodraethau'r DU.
Ddydd Mawrth dywedwyd wrth y grŵp teuluoedd mewn profedigaeth y byddai'n cael ei ystyried yn "gyfranogwr craidd".
Wrth groesawu'r penderfyniad, dywedodd Mr Drakeford wrth y Senedd ei fod wedi ysgrifennu at y grŵp "yn gynharach eleni yn cefnogi eu cais" am y statws.
Ar BBC Radio Wales nos Fawrth dywedodd aelod o'r grŵp, Sam Smith-Higgin fod Mr Drakeford wedi dweud "celwydd wrth ddweud ei fod wedi ysgrifennu llythyr yn ein cefnogi ni am statws cyfranogwr craidd - nid yw wedi".
Cyhoeddodd y grŵp gopi o lythyr, a oedd, medden nhw, oddi wrth Mr Drakeford ym mis Awst, a oedd, er yn dymuno llwyddiant iddynt, yn cyflwyno dadl pam na allai Llywodraeth Cymru ofyn i'r ymchwiliad i'r grŵp gael ei wneud yn gyfranogwr craidd.
Dywedodd y llythyr fod y llywodraeth yn dymuno "osgoi unrhyw awgrym ein bod yn ceisio dylanwadu ar bwy ddylai'r cyfranogwyr craidd eraill fod, yn enwedig mewn amgylchiadau lle rydym yn debygol o fod yn un o'r cyfranogwyr allweddol y craffir arnynt".
"Fodd bynnag, hoffwn ddymuno pob llwyddiant i chi yn eich ymdrechion eich hun i sicrhau statws cyfranogwr craidd".
'Parch'
Yn ei lythyr yn gofyn i Mr Drakeford dynnu'r sylwadau yn ôl, dywedodd Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru ei fod yn gofyn i'r prif weinidog "adlewyrchu" ar ei gyfraniad "trwy barch" at yr ymgyrchwyr sydd wedi "gwneud gwaith rhagorol yn casglu tystiolaeth yn y gobaith o gyrraedd y gwir mewn perthynas â'r ymateb i'r pandemig".
Dywed Mr ap Iorwerth bod y grŵp ymgyrchu "yn flin iawn eu bod yn cael eu cam-gynrychioli gan y Prif Weinidog Mark Drakeford yn y Cyfarfod Llawn ddoe."
Ychwanegodd: "Dydyn nhw ddim wedi 'symud ymlaen' ac, fel fi, maen nhw'n parhau i fod yn argyhoeddedig y dylid craffu ar y penderfyniadau Covid-19 a wnaed yng Nghymru.
"Tra bod rhai penderfyniadau wedi eu gwneud ar lefel y DU, mae llawer o'r ymateb i'r pandemig yma yng Nghymru wedi bod yn nwylo Llywodraeth Cymru, a'r unig ffordd i ddysgu gwersi o'r pandemig o ddifri fyddai cael ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru eu hunain."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd20 Awst 2021
- Cyhoeddwyd12 Mai 2021