Dan Biggar i adael Northampton ar ddiwedd y tymor
- Cyhoeddwyd
Bydd capten Cymru Dan Biggar yn gadael Northampton ar ddiwedd tymor 2022-23 ar ôl pum mlynedd gyda'r clwb.
Ymunodd Biggar, 32, o'r Gweilch yn 2018 a bydd yn gadael pan ddaw ei gytundeb presennol i ben.
Mae maswr y Llewod yn ansicr lle bydd yn symud nesaf.
"Rwyf wedi caru fy amser yn Northampton Saints, clwb rygbi traddodiadol sy'n llawn o bobl wych o'r top i'r gwaelod," meddai Biggar.
"Bydden i wedi hoffi chwarae mwy o gemau dros y clwb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2017