'Gallai'r GIG dal gyrraedd targed rhestrau aros'

  • Cyhoeddwyd
Ystafell arosFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gweinidog Iechyd yn dweud nad yw "wedi rhoi lan eto" ar y posibilrwydd y bydd GIG Cymru'n cyrraedd ei darged cyntaf o ran mynd i'r afael â rhestrau aros mawr hir.

Dywedodd Eluned Morgan ei bod wedi cael "nifer o drafodaethau plaen iawn" gyda'r byrddau iechyd y mae hi'n credu sydd dal â'r gallu i gyrraedd y targed hwnnw.

Erbyn diwedd 2022 mae Llywodraeth Cymru'n anelu at sicrhau bod neb yn gorfod aros yn hirach na blwyddyn i gael eu hapwyntiad cyntaf mewn uned cleifion allanol.

Ym mis Gorffennaf, roedd 101,106 o gleifion wedi bod yn aros am dros flwyddyn, ac roedd 60,557 yn aros ers dros ddwy flynedd.

Dyma'r ffigwr gwaethaf ond un erioed o ran gorfod aros o leiaf flwyddyn am apwyntiad - 101,167 oedd y ffigwr gwaethaf erioed, ym mis Hydref 2021.

Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, fe ofynnwyd wrth Ms Morgan a oedd yn hyderus y gellir cyrraedd y targed cyntaf.

Ateboddd: "Rwy' heb rhoi lan eto a rwy'n meddwl bod hi'n bwysig iawn bod y byrddau iechyd yn wirioneddol canolbwyntio'u holl sylw nawr yn y misoedd nesaf i drio cyrraedd y targed yna.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Does dim rheswm pam na allen ni gyrraedd y targedau yma', medd Eluned Morgan

"Pe byddan nhw'n gwneud yr hyn ry'n ni'n gofyn iddyn nhw wneud, sef trin pobl yn eu tro, trin pobl o'r categori yna, gallen nhw dal gyrraedd y targed yna.

"Dwi wedi cael nifer o drafodaethau plaen iawn gyda'r byrddau iechyd yn gofyn iddyn nhw ymateb i'r hyn ry'n ni'n gofyn iddyn nhw wneud a phetawn nhw yn gwneud hynny, does dim rheswm pam na allen ni gyrraedd y targedau yma.

"Maen nhw i gyd yn gweithio'n eithriadol o galed, maen nhw i gyd dan bwysau enfawr - does dim amheuaeth gen ei eu bod yn gweithio mor galed ag y gallen nhw ac yn mynd trwy cannoedd ar filoedd [o apwyntiadau] bob mis.

"Os ydyn nhw am gwrdd â'r targedau ry'n ni wedi eu gosod, fodd bynnag, ry'n ni eisiau iddyn nhw fynd at rheiny sy'n aros hiraf yn gyntaf, oni bai wrth gwrs eu bod yn achosion brys."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae targedau eraill Llywodraeth Cymru i geisio lleihau rhestrau aros y GIG yn cynnwys:

  • Dileu amseroedd aros o ddwy flynedd yn y rhan fwyaf o'r meysydd arbenigol erbyn Mawrth 2023;

  • Sicrhau bod neb yn aros am dwy na blwyddyn ym mwyafrif y meysydd arbenigol erbyn Gwanwyn 2025; a

  • Sicrhau bod 80% o gleision yn derbyn diagnosis canser ac yn dechrau cael triniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau erbyn 2026.

Fe wnaeth rhestrau aros triniaethau ysbyty yng Nghymru gyrraedd eu lefel uchaf erioed ym mis Gorffennaf - 732,241 - gan arwain at alwadau gan lawfeddygon am "weithredu brys"

'Problemau wedi cynyddu trwy'r haf'

Wrth siarad ar raglen Politics Wales, dywedodd Yr Athro Richard Stanton o Brifysgol Caerdydd bod y GIG "wirioneddol dan bwysau".

"Fel arfer, dros yr haf, ry'n ni'n gweld lleihad yn nifer y bobl sy'n aros am driniaeth ac yn amseroedd aros unedau damwain a brys... ac mae hynny'n rhoi'r GIG mewn lle da i ddelio â'r cynnydd mewn problemau dros y gaeaf.

"Eleni, dydy hynny heb ddigwydd. Eleni mae'r problemau wedi cynyddu trwy'r haf felly ry'n ni'n dechrau'r gaeaf mewn sefyllfa ble mae'r GIG wirioneddol dan bwysau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Richard Stanton yn rhagweld gaeaf caled wedi prysurdeb cyfnod yr haf sydd fel arfer yn rhoi cyfle i'r gwasanaeth leihau rhestrau aros

Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, er bod pwysau ar wasanaethau pob GIG trwy'r DU, yng Nghymru fydd yr heriau gwaethaf.

"Mae un ymhob pum person ar restr aros am driniaeth ar hyn o bryd," meddai.

"Aethon ni i fewn i bandemig mewn sefyllfa anoddach ac ry'n ni mewn sefyllfa fwy anodd a heriol nawr."

Bil ynni'n uwch o lawer na'r disgwyl

Datgelodd Eluned Morgan hefyd ddydd Sul bod bil ynni GIG Cymru £207m yn uwch na'r disgwyl yn wreiddiol.

Dywedodd wrth Sunday Supplement y bydd yn "rhaid dod o hyd i'r arian yna o rywle" oherwydd "does dim siawns" y bydd arian ychwanegol sydd i ddod gan Lywodraeth Cymru'n ddigon i dalu'r holl gostau ychwanegol.

Pynciau cysylltiedig