Cyhuddo dyn wedi marwolaeth dynes o Lanymynech
- Cyhoeddwyd

Cafodd Rebecca Steer ei disgrifio fel y "ferch, chwaer, wyres a ffrind orau y gallai neb ei gael"
Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes 22 oed yn Sir Amwythig.
Bu farw Rebecca Steer o Lanymynech, sydd ar y ffin rhwng Powys a Sir Amwythig, ar ôl cael ei tharo gan gar wnaeth ddim stopio yng Nghroesoswallt.
Dywed yr heddlu fod y car wedi mynd dros ochr palmant tua 02:50 fore Sul a tharo dau o bobl tu allan i fwyty.
Mae Stephen McHugh, 27 oed o Groesoswallt, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Cafodd dyn 28 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth hefyd, ac mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae dau ddyn arall, 31 oed a 45 oed, wedi eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr. Mae'r ddau wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
'Pawb yn ei charu'
Mewn teyrnged i Ms Steer, mae ei theulu wedi dweud mai hi oedd "y person mwyaf cariadus, talentog a charedig".
"Mi fydd 'na golled fawr ar ei hôl hi," meddai ei theulu, gan ychwanegu fod "ganddi wên a chwerthiniad bob amser, oedd yn gwneud i bawb ei charu."
"Hi oedd y ferch, chwaer, wyres a ffrind orau y gallai neb ei gael."

Swyddogion fforensig yn archwilio'r ardal ar ôl y digwyddiad
Bu farw Ms Steer yn fuan ar ôl cyrraedd Ysbyty Brenhinol Amwythig.
Mae'r ail berson, gafodd anafiadau difrifol, wedi eu rhyddhau o'r ysbyty ar ôl derbyn triniaeth.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Bellamy, o Heddlu Gorllewin Mercia: "Diolch i'r cyhoedd am rannu ein hapêl a dod ymlaen gyda gwybodaeth sydd wedi bod yn hanfodol wrth arestio'r person yma.
"Mi fydd presenoldeb yr heddlu'n parhau yng nghanol y dref heddiw wrth i'n hymchwiliad barhau."