Gobeithio cynhyrchu hydrogen gwyrdd ar gyn-safle milwrol Trecŵn

  • Cyhoeddwyd
Trecwn
Disgrifiad o’r llun,

Ar un adeg roedd arfau yn cael eu storio ar safle Trecŵn

Fe allai rhan o gyn-safle milwrol yn Sir Benfro gael ei ddefnyddio i gynhyrchu digon o hydrogen gwyrdd i bweru 170 bws y dydd.

Mae cwmni ynni Statkraft UK yn dymuno codi hwb ynni gwyrdd yn Nhrecŵn.

Y nod yw echdynnu hydrogen o ddŵr gan ddefnyddio trydan sydd wedi'i gynhyrchu gan dyrbinau gwynt a phaneli solar.

Mae disgwyl i'r cwmni gynnal cyfres o ymgynghoriadau cyhoeddus cyn cyflwyno cais i'r adran gynllunio flwyddyn nesaf.

Ar un adeg roedd y safle cudd yn Nhrecŵn y safle storio arfau mwyaf yn Ewrop gan ddarparu offer ar gyfer llongau rhyfel y Llynges Frenhinol.

Mae Statkraft UK yn gobeithio defnyddio hen sied ar gyfer eu hwb ynni gwyrdd ac, os gwireddir eu cynlluniau, y nod yw cynhyrchu oddeutu tair tunnell o hydrogen y diwrnod.

Ffynhonnell y llun, Statkraft UK
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Statkraft UK yn gobeithio defnyddio'r sied yma ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd

Yn ôl Matt Kelly, o Statkraft UK, gallai'r gwaith fod yn ddechreuad ar gyfer ailddatblygu'r ardal gyfan.

"Ry'n yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Penfro ac er bod hi'n ddyddiau cynnar ry'n yn awyddus i glywed gan bobl leol," meddai.

Dywed y cwmni y gallai eu hydrogen gwyrdd gael ei ddefnyddio ar gyfer trenau ac y gallai Cyngor Sir Penfro wneud defnydd ohono ar gyfer eu lorïau a bysys lleol - mae modd pweru hyd at 170 bws y dydd, medd llefarydd.

Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Sir Penfro: "Mae meithrin a sicrhau technoleg adnewyddadwy yn hynod o bwysig i ni ar draws y sir gan gynnwys cymunedau gwledig ac mae'n hynod bwysig bod Sir Benfro a'r de-orllewin yn rhan o ymdrechion ynni adnewyddadwy Cymru."

Fe adeiladodd y Llynges Frenhinol y ganolfan yn Nhrecŵn, i'r de o Abergwaun, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd ac fe gafodd y safle ei ddatgomisiynu 30 mlynedd yn ôl.

Yn ystod y mis mae modd cael mwy o wybodaeth mewn sesiynau a fydd yn cael eu cynnal yn Nhrecŵn, Treletert ac Abergwaun.