Cynnig nifer o newidiadau i annog mwy i bleidleisio

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
pleidlaisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Comisiwn Etholiadol mai dim ond un o bob pump person 16 ac 17 oed a wnaeth gofrestru i bleidleisio cyn etholiadau lleol mis Mai

Gallai pobl gofrestru i bleidleisio'n awtomatig er mwyn cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau.

Dylai pleidleisio fod mor syml â phosib, yn enwedig i bobl ifanc, meddai Llywodraeth Cymru.

Gallai rhagor o wybodaeth am ymgeiswyr a phleidiau, a gwell offer ar gyfer pleidleiswyr anabl, gael eu cyflwyno hefyd.

Mae cynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio etholiadau'r Senedd a chynghorau lleol wedi eu cyhoeddi mewn papur gwyn.

Mae'r rheolau ar gyfer ethol aelodau seneddol yn cael eu penderfynu yn San Steffan.

Dim ond pobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio all fwrw pleidlais.

O dan y cynigion, gallai cynghorau ychwanegu enwau unrhyw un sy'n gymwys i'r gofrestr etholiadol yn awtomatig.

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig y gallai cofrestru'n awtomatig ar gyfer etholiadau'r Senedd a'r rhai lleol, ond nid rhai San Steffan, fod yn ddryslyd.

Does dim dyddiad ar gyfer pryd fydd yr argymhellion yn dod yn ddeddf - mae'r papur gwyn yn nodi y bydd gweinidogion yn gweithio gyda chynghorau ar gyfres o gynlluniau peilot ar gyfer cofrestru'n awtomatig.

Angen denu pobl ifanc i bleidleisio

Mae'r llywodraeth hefyd yn chwilio am syniadau i annog mwy o bobl ifanc a myfyrwyr i gofrestru a phleidleisio.

Ers 2021, mae'r oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru wedi gostwng i 16.

Ond dywed y Comisiwn Etholiadol mai dim ond un o bob pump person 16 ac 17 oed a wnaeth gofrestru i bleidleisio cyn etholiadau lleol mis Mai. Roedd y ganran a bleidleisiodd ar ei hisaf ymhlith grwpiau oedran iau, meddai.

Mae'r argymhellion yn nodi y gallai prifysgolion rannu data gyda chynghorau fel bod myfyrwyr wedi'u cofrestru pan yn dod i goleg.

Mae'r papur yn cadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ailgyflwyno'r cynlluniau sy'n rhoi hawl i garcharorion fwrw pleidlais - fe ddaeth hynny i ben yn ystod misoedd cyntaf Covid.

Er eu bod yn dweud bod hynny yn parhau yn flaenoriaeth dywed Llywodraeth Cymru fod gwrthwynebiad Llywodraeth y DU i hynny yn "ei gwneud hi'n anodd".

"Fe fyddwn yn parhau i'w gynnwys fel blaenoriaeth tymor hir," medd llefarydd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd myfyrwyr Coleg Gwent yng Nglynebwy yn rhan o'r peilot pleidleisio'n gynnar

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw, y gweinidog dros y cyfansoddiad: "Mae hwn yn gam arall tuag at sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru.

"Rydym am sicrhau bod bwrw pleidlais mor hawdd â phosibl, a bod pobl yn cael cyfle i chwarae rhan lawn yn ein democratiaeth."

Bydd awdurdodau lleol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn treial.

Mae'n dilyn prosiect peilot pleidleisio cynnar yn etholiadau lleol mis Mai.

Roedd hawl gan bobl ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Torfaen a rhai rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr i fwrw eu pleidlais cyn y diwrnod pleidleisio.

Ond yn ôl adroddiad gan y Comisiwn Etholiadol, ychydig iawn o bobl wnaeth fanteisio ar y cyfle.

Ceidwadwyr: Pam bod angen newid?

Ar y pryd, dywedodd y Ceidwadwyr fod y £1.5m a gafodd ei wario ar y prosiect wedi ei wastraffu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth ymateb i argymhellion y papur gwyn dywedodd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr ar y cyfansoddiad: "Dyw hi ddim yn glir pam bod angen y newidiadau yma. Mae cofrestru i bleidleisio eisoes yn syml ac mae miloedd o bobl yng Nghymru yn llwyddo i wneud hynny heb unrhyw drafferth.

"Yr hyn sy'n bendant yw bod newid y drefn bleidleisio a bod honno ond yn gymwys i rai etholiadau ac nid eraill yn gymhleth.

"Gall cofrestru awtomatig ar gyfer etholiadau'r Senedd a rhai lleol gamarwain rhai pleidleiswyr gan wneud iddynt gredu eu bod wedi cofrestru ar gyfer pob etholiad.

"Ond yn waeth byth gallai cofrestru awtomatig ar gyfer myfyrwyr gynyddu'r risg o bobl yn cofrestru mewn dau le ac felly fe allen nhw bleidleisio ddwywaith."

'Angen addysgu etholwyr'

Dywedodd Sioned Williams, llefarydd Plaid Cymru ar addysg ôl-16, fod angen gwneud mwy i ysgogi pobl ifanc i bleidleisio.

"Rydych yn llai tebygol o bleidleisio yn y dyfodol os nad ydych wedi dechrau pleidleisio yn ifanc," meddai.

"Felly tra rwyf yn croesawu'r cam yma gan Lywodraeth Cymru i beilota trefn o gofrestru etholwyr yn awtomatig, mae'n rhaid i hynny fynd law yn llaw gyda mesurau sy'n mynd ymhellach na'r hyn sy'n cael ei gynnwys yn y cwricwlwm newydd.

"A beth bynnag bydd hynny yn rhy hwyr i dalcen sylweddol o ddisgyblion a myfyrwyr a'r rhai hynny sydd newydd adael yr ysgol.

"Rydym angen gweld addysgu gwleidyddol o fewn y system addysg ac o fewn y gymuned.

"Oherwydd bydd cofrestru person yn awtomatig ddim yn cynyddu diddordeb yr etholwyr oni bai yn gyntaf eu bod wedi eu haddysgu am y broses ddemocrataidd ac yn barod i fynegi eu barn drwy ddefnyddio'r broses honno."