Bwcle: Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn arall

  • Cyhoeddwyd
StevenFfynhonnell y llun, Llun teulu / Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Ble bynnag roedd o'n mynd, roedd chwerthin i'w gael," meddai teulu Steven Wilkinson mewn teyrnged

Mae dyn 24 oed wedi ymddangos o flaen llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn arall ym Mwcle, Sir Y Fflint.

Mae Jamie Mitchell, o Fwcle, wedi'i gyhuddo o ladd Steven Wilkinson, 23 oed, yn y dref wythnos yn ôl.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth, cafodd Mr Mitchell ei gadw yn y ddalfa tan 9 Ionawr.

Roedd y diffynnydd yn ymddangos trwy gyswllt fideo o Garchar Y Berwyn, Wrecsam.

Mae'r achos llawn wedi ei glustnodi ar gyfer 17 Ebrill, 2023.

Clywodd cwest i farwolaeth Mr Wilkinson ddydd Llun ei fod wedi cael ei drywanu yn ei galon a'i ysgyfaint mewn digwyddiad yn Precinct Way, Bwcle, ychydig cyn 22:30 ar 4 Hydref.

Bu farw yn Ysbyty Maelor Wrecsam y diwrnod canlynol.

Pynciau cysylltiedig