Ysgol Maenorbŷr: Trefnu addysg dros dro yn dilyn tân

  • Cyhoeddwyd
Tân yn Ysgol WR yr Eglwys yn Nghymru Maenorbŷr yn Ninbych-y-Pysgod

Bydd disgyblion ysgol gynradd yn Sir Benfro yn cael gwersi wyneb-yn-wyneb mewn safle arall o ddydd Mercher ymlaen, yn dilyn tân difrifol a ddinistriodd to'r adeilad.

Digwyddodd y tân yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr, Dinbych-y-Pysgod, fore Llun, ac roedd pryder y byddai'r plant yn gorfod cael gwersi ar-lein am gyfnod.

Ond mae trefniadau dros-dro wedi eu gwneud i'r disgyblion dderbyn gwersi ar safle Parc Carafannau Buttyland, sydd y drws nesaf i'r ysgol.

Mae teuluoedd wedi cael cynnig ymweld â'r safle ddydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Damian Brown
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd to'r adeilad, sydd y drws nesaf i barc carafannau, ei ddifrodi'n llwyr yn y digwyddiad

Mae cyfrifoldeb dros yr ysgol wedi'i drosglwyddo i Gyngor Sir Penfro, sydd yn edrych ar ddarpariaeth addysg tymor-hir ar gyfer y plant.

Yn y cyfamser maent yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i ddigyblion a'u teuluoedd lle bo'r angen.

Llwyddodd disgyblion a staff i adael yr adeilad yn ddiogel yn ystod y digwyddiad, a daeth rhieni a gofalwyr i'w casglu.

Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar y safle tan ganol y prynhawn.

Pynciau Cysylltiedig