Achub dringwr oddi ar Garnedd Llywelyn
- Cyhoeddwyd
Mae dringwr wedi cael ei achub oddi ar Graig Yr Ysfa ar Garnedd Llywelyn ar ôl syrthio a chael anafiadau difrifol i'w gefn.
Cafodd Tîm Achub Ogwen eu galw am 12:00 ddydd Mawrth i gynorthwyo'r dyn, oedd wedi disgyn 20m tra'n dringo ar ei ben ei hun.
Fe gafodd hofrennydd o Gaernarfon ei alw, ond oherwydd natur y tirwedd roedd yn rhaid gostwng y dringwr 25m ymhellach cyn gallu ei symud oddi yno.
Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ar ôl ymdrech a barodd dros bum awr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2021