Bachgen o Gaernarfon wedi ymosod ar ddyn yn 'ddireswm'
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed fod bachgen ysgol o Wynedd wedi achosi anafiadau difrifol i ddyn o Wlad Pwyl ar ôl cael ei annog gan ffrindiau a oedd yn ffilmio'r digwyddiad ar Snapchat.
Clywodd llys bod Dominic Billinghurst, 18 o Gaernarfon, wedi ymosod ar y dyn ym mhentref Deiniolen ym mis Mawrth 2021.
Roedd y dyn wedi bod yn prynu cwrw mewn siop yn y pentref pan ymosodwyd arno gan Billinghurst - a oedd yn 16 oed ar y pryd.
Treuliodd y dyn, a oedd yn byw yn y pentref, dri diwrnod yn yr ysbyty gydag anafiadau oedd yn cynnwys toriadau i'w asgwrn cefn.
Plediodd Billinghurst yn euog i achosi anafiadau corfforol difrifol yn fwriadol, a cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar, wedi'i ohirio am 24 mis, ynghyd â 120 awr o waith di-dâl a thalu £500 o iawndal.
Arestio yn yr ysgol
Dywedodd yr erlynydd Brett Williamson bod merch 15 oed wedi awgrymu wrth yr heddlu fod Billinghurst yn anfodlon pan geisiodd y dyn ysgwyd llaw â merch arall.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener dywedodd Elen Owen ar ran yr amddiffyniad fod Billinghurst wedi cael ei arestio yn yr ysgol y diwrnod wedi'r digwyddiad.
Ond roedd 15 mis wedi pasio cyn iddo dderbyn gwŷs i fynd i'r llys.
Roedd hynny wedi ei amddifadu o'r cyfle i gael ei drin fel plentyn gerbron y llys, meddai Ms Owen.
Ychwanegodd nad oedd ganddo syniad ei fod wedi achosi anafiadau mor ddifrifol.
Roedd y dyn wedi torri pedair asen hefyd, ac roedd ganddo dwll yn ei ysgyfaint (punctured lung) a thueg doredig (ruptured spleen).
'Ysu am ffeit'
Dywedodd y Barnwr Timothy Petts wrth Billinghurst: "Ym mis Mawrth y llynedd fe wnaethoch chi gyflawni ymosodiad treisgar a direswm ar ddyn dieithr yn Neiniolen pan oeddech chi allan gyda grŵp o ffrindiau.
"Beth bynnag oedd o wedi'i wneud, mae'n ymddangos nad oedd wedi gwneud dim o'i le.
"Roeddech chi'n ysu am ffeit, efallai wedi'ch annog i raddau gan y rhai oedd efo chi, ond nid yw hynny'n esgus fel y gwyddoch.
"Roedd o'n cerdded i ffwrdd ond fe wnaethoch ei ddilyn am rai munudau, dal i fyny efo fo, ac yna ei gicio, sathru, a'i ddyrnu drosodd a drosodd."
Dywedodd y barnwr fod y dyn wedi treulio tri diwrnod yn yr ysbyty oherwydd gweithred "iobaidd" y diffynnydd. Roedd yn derbyn fod Billinghurst yn edifar.
Cafodd ddedfryd lai oherwydd yr oedi i ddod â'r achos i'r llys, a chlywodd y llys fod Billinghurst wedi gwella ei fywyd ac yn gweithio'n galed.